Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 10

Roedd Iesu Bob Amser yn Ufudd

Roedd Iesu Bob Amser yn Ufudd

Ydy ufuddhau i’th rieni bob amser yn hawdd?— Weithiau mae’n anodd. Oeddet ti’n gwybod bod Iesu yn ufudd i Jehofa ac i’w rieni?— Gall ei esiampl dy helpu di i fod yn ufudd i’th rieni, hyd yn oed pan fydd hynny yn anodd. Gad inni ddysgu mwy am hyn.

Cyn i Iesu fyw ar y ddaear, roedd yn y nefoedd gyda’i dad, Jehofa. Ond roedd gan Iesu rieni yma ar y ddaear hefyd. Eu henwau oedd Joseff a Mair. Wyt ti’n gwybod sut daethon nhw’n rhieni iddo?—

Cymerodd Jehofa fywyd Iesu a oedd yn y nefoedd a’i roi y tu mewn i Mair. Roedd Jehofa yn gwneud hyn er mwyn i Iesu gael ei eni ar y ddaear a byw yma. Roedd hyn yn wyrth! Roedd Iesu yn tyfu y tu mewn i Mair, yn union fel mae babis eraill yn tyfu y tu mewn i’w mamau. Tua naw mis wedyn, cafodd Iesu ei eni. Dyma sut daeth Mair a’i gŵr Joseff yn rhieni i Iesu yma ar y ddaear.

Pan oedd Iesu’n 12 mlwydd oed, gwnaeth rywbeth a oedd yn dangos cymaint roedd yn caru ei Dad, Jehofa. Digwyddodd hyn pan aeth Iesu a’i rieni ar daith hir i Jerwsalem ar gyfer Gŵyl y Pasg. Dathliad oedd hwn i gofio sut cafodd yr Israeliaid eu hachub o’r Aifft. Ar eu ffordd adref, doedd Mair a Joseff ddim yn gallu dod o hyd i Iesu yn unlle. Wyt ti’n gwybod lle roedd Iesu?—

Pam roedd Iesu yn y deml?

Brysiodd Joseff a Mair yn ôl i Jerwsalem ac edrych am Iesu ym mhob man. Roedden nhw’n poeni’n arw oherwydd nad oedden nhw’n gallu dod o hyd iddo. Ar ôl tri diwrnod, daethon nhw o hyd iddo yn y deml! Wyt ti’n gwybod pam roedd Iesu yn y deml?— Oherwydd yno roedd yn gallu dysgu am ei dad Jehofa. Roedd yn caru Jehofa ac eisiau dysgu am sut i’w blesio. Hyd yn oed ar ôl i Iesu dyfu i fyny, roedd Iesu bob amser yn ufudd i Jehofa. Roedd Iesu yn ufudd hyd yn oed pan oedd hyn yn anodd iddo ac roedd rhaid iddo ddioddef. A oedd Iesu yn ufudd i Joseff a Mair hefyd?— Oedd, mae’r Beibl yn dweud ei fod yn ufudd i’w rieni.

Beth gelli di ei ddysgu oddi wrth esiampl Iesu?— Mae angen iti fod yn ufudd i’th rieni, hyd yn oed os yw hynny’n anodd. Wyt ti’n mynd i wneud hynny?—