GWERS 3
Rhoddodd Rahab Ffydd yn Jehofa
Dychmyga ein bod ni yn ninas Jericho. Mae’r ddinas hon yng ngwlad Canaan lle nad yw’r bobl yn credu yn Jehofa. Mae dynes o’r enw Rahab yn byw yma.
Pan oedd Rahab yn ferch ifanc, clywodd storïau am sut gwahanodd Moses y Môr Coch a sut arweiniodd yr Israeliaid allan o’r Aifft. Hefyd fe glywodd hi am sut gwnaeth Jehofa helpu ei bobl i ennill rhyfeloedd yn erbyn eu gelynion. Nawr, mae hi’n clywed bod yr Israeliaid yn gwersyllu wrth ymyl Jericho!
Cuddiodd Rahab yr ysbïwyr oherwydd ei ffydd hi yn Jehofa
Un noson, aeth dau Israeliad i Jericho i ysbïo ar y ddinas. Aethon nhw i dŷ Rahab. Rhoddodd Rahab wahoddiad iddyn nhw aros yn ei chartref. Yn ystod y nos, clywodd brenin Jericho fod ysbïwyr yn y ddinas, a’u bod nhw yn nhŷ Rahab. Anfonodd y brenin ddynion i’w nôl nhw. Cuddiodd Rahab yr ysbïwyr ar do gwastad ei thŷ, a dywedodd hi wrth ddynion y brenin: ‘Roedd yr ysbïwyr yma, ond maen nhw wedi gadael y ddinas. Os ewch chi rŵan, rydych yn siŵr o’u dal!’ Wyt ti’n gwybod pam mae Rahab yn amddiffyn yr ysbïwyr?— Oherwydd bod ganddi ffydd yn Jehofa ac yn gwybod y byddai’n rhoi tir Canaan i’r Israeliaid.
Cyn i’r ysbïwyr adael tŷ Rahab, fe addawon nhw y byddai hi a’i theulu yn ddiogel pan fydd Jericho yn cael ei ddinistrio. Wyt ti’n gwybod beth maen nhw’n gofyn iddi ei wneud?— Maen nhw’n dweud: ‘Cymera’r rhaff goch yma a’i hongian o’th ffenestr. Os wyt yn gwneud hyn, bydd pawb sydd yn dy dŷ yn ddiogel.’ Fe wnaeth Rahab yn union fel y dywedodd yr ysbïwyr. Wyt ti’n gwybod beth sy’n digwydd nesaf?—
Ychydig o ddyddiau wedyn, cerddodd yr Israeliaid yn dawel o gwmpas y ddinas. Unwaith y diwrnod, am chwe diwrnod, cerddon nhw o gwmpas y ddinas. Ond ar y seithfed diwrnod, cerddon nhw o gwmpas y ddinas saith gwaith. Wedyn, fe waeddon nhw i gyd yn uchel. Mae Jehofa yn gwneud i’r waliau o gwmpas y ddinas gwympo. Ond mae’r tŷ, gyda’r rhaff goch
yn hongian o’r ffenestr, yn dal i sefyll! Fedri di weld hynny yn y llun?— Mae Rahab a’i theulu wedi cael eu hachub!Beth gelli di ei ddysgu gan Rahab?— Rhoddodd Rahab ffydd yn Jehofa oherwydd yr holl bethau gwych dysgodd hi amdano. Rwyt ti hefyd yn dysgu llawer o bethau gwych am Jehofa. Wyt ti’n credu yn Jehofa fel roedd Rahab yn ei wneud?— Rydyn ni’n gwybod dy fod ti!