GWERS 17
Sut Mae Arolygwyr Cylchdaith yn Ein Helpu?
Mae’r Ysgrythurau Groeg yn cyfeirio’n aml at Barnabas a Paul. Arolygwyr teithiol oedd y dynion hyn, yn ymweld â chynulleidfaoedd Cristnogol y ganrif gyntaf. Pam roedden nhw’n gwneud hynny? Oherwydd eu bod nhw’n caru eu brodyr ysbrydol. Dywedodd Paul ei fod yn awyddus i “ymweld â’r credinwyr” er mwyn gweld sut roedden nhw. Roedd yn fodlon teithio cannoedd o filltiroedd er mwyn eu cryfhau nhw. (Actau 15:36) Mae arolygwyr teithiol heddiw yn teimlo’r un ffordd.
Maen nhw’n dod i’n calonogi ni. Mae arolygwyr cylchdaith yn ymweld â thua 20 o gynulleidfaoedd ddwywaith y flwyddyn, gan dreulio wythnos gyda phob un. Gallwn elwa ar brofiad y brodyr hynny ac, os ydyn nhw wedi priodi, ar brofiad eu gwragedd hefyd. Maen nhw’n ceisio dod i adnabod y rhai hen a’r rhai ifainc, ac maen nhw’n awyddus i weithio gyda ni yn y weinidogaeth ac i ymweld â’r rhai sy’n astudio’r Beibl. Mae’r arolygwyr a’r henuriaid yn bugeilio’r gynulleidfa. Hefyd, maen nhw’n rhoi anerchiadau calonogol yn y cyfarfodydd ac yn y cynulliadau.—Actau 15:35.
Mae ganddyn nhw ddiddordeb ym mhob un. Mae arolygwyr cylchdaith yn cymryd diddordeb mawr yng nghyflwr ysbrydol y gynulleidfa. Maen nhw’n cyfarfod â’r henuriaid a’r gweision gweinidogaethol i weld sut mae’r gynulleidfa wedi gwella, ac i roi cyngor ymarferol ar sut i ddelio â’u cyfrifoldebau. Maen nhw’n helpu’r arloeswyr i fod yn llwyddiannus yn y weinidogaeth, ac maen nhw’n mwynhau dod i adnabod y rhai newydd a chlywed am eu cynnydd ysbrydol. Mae’r brodyr hyn yn ‘gydweithwyr yn ein gwasanaeth.’ (2 Corinthiaid 8:23) Dylen ni efelychu eu ffydd a’u defosiwn i Dduw.—Hebreaid 13:7.
-
Pam mae arolygwyr cylchdaith yn ymweld â’r cynulleidfaoedd?
-
Sut gallwch chi elwa ar eu hymweliadau?