GWERS 18
Sut Rydyn Ni’n Helpu Ein Brodyr Sy’n Wynebu Trychineb?
Pan fo trychineb yn digwydd, mae Tystion Jehofa yn trefnu cymorth ar unwaith i helpu eu brodyr. Mae ymdrechion o’r fath yn dangos y cariad sydd gennyn ni tuag at ein gilydd. (Ioan 13:34, 35; 1 Ioan 3:17, 18) Ym mha ffyrdd rydyn ni’n helpu?
Rydyn ni’n cyfrannu’n ariannol. Pan ddigwyddodd newyn mawr yn Jwdea, rhoddodd y Cristnogion cynnar yn Antiochia gymorth ariannol i helpu eu brodyr ysbrydol. (Actau 11:27-30) Yn yr un modd, pan ydyn ni’n clywed bod ein brodyr yn wynebu trychinebau, rydyn ni’n anfon arian trwy’r gynulleidfa leol er mwyn cyfrannu’n faterol ar gyfer y rhai sydd mewn gwir angen. —2 Corinthiaid 8:13-15.
Rydyn ni’n rhoi cymorth ymarferol. Mae’r henuriaid yn ardal y drychineb yn cysylltu â phob aelod o’r gynulleidfa i sicrhau eu bod nhw’n ddiogel. Bydd pwyllgor cymorth yn trefnu bod bwyd, dŵr glân, dillad, lloches, a chymorth meddygol ar gael. Mae Tystion sy’n meddu ar sgiliau priodol, yn talu eu costau teithio eu hunain er mwyn gwirfoddoli i drwsio neu ailadeiladu tai a Neuaddau’r Deyrnas. Mae’r undod sydd gennyn ni fel cyfundrefn, a’n profiad o weithio gyda’n gilydd, yn ein galluogi ni i weithredu’n gyflym. Er ein bod ni’n helpu’r “rhai sydd o deulu’r ffydd,” rydyn ni hefyd yn helpu eraill pan fo hynny’n bosibl, beth bynnag yw eu crefydd.—Galatiaid 6:10.
Rydyn ni’n rhoi cymorth ysbrydol ac emosiynol. Mae gwir angen cysur ar y rhai sydd wedi dioddef o achos trychinebau. Ar adegau fel hyn, rydyn ni’n dibynnu ar nerth Jehofa, y “Duw sy’n rhoi pob diddanwch.” (2 Corinthiaid 1:3, 4) Mae’n bleser inni rannu addewidion y Beibl â phobl sy’n dioddef a dangos iddyn nhw y bydd Teyrnas Dduw yn fuan yn rhoi terfyn ar yr holl drychinebau sy’n achosi poen a dioddefaint.—Datguddiad 21:4.
-
Pam mae’r Tystion yn gallu ymateb yn gyflym i drychinebau?
-
Pa gysur ysbrydol y gallwn ni ei roi i’r rhai sy’n goroesi trychinebau?