Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

RHAN 4

Gwrandawon Nhw ar Satan​—Beth Oedd y Canlyniadau?

Gwrandawon Nhw ar Satan​—Beth Oedd y Canlyniadau?

Roedd Adda ac Efa yn anufudd i Dduw, felly fe wnaethon nhw farw. Genesis 3:​6, 23

Gwrandawodd Efa ar y sarff ac fe fwytaodd ddarn o’r ffrwyth. Wedyn, rhoddodd hi ychydig i Adda, ac fe fwytaodd ef hefyd.

Roedd y weithred hon yn anghywir, yn bechod. Gorfododd Duw iddyn nhw adael eu cartref ym Mharadwys.

Roedd bywyd yn galed iddyn nhw a’u plant. Roedden nhw’n heneiddio ac yna’n marw. Doedden nhw ddim yn bodoli mwyach. Doedden nhw ddim yn mynd ymlaen i’r ysbryd-fyd ychwaith.

Mae’r meirw fel llwch, heb fywyd. Genesis 3:​19

Gan ein bod ni i gyd yn dod o Adda ac Efa, rydyn ni’n marw. Nid yw’r meirw yn gallu gweld, clywed, na gwneud dim.—Pregethwr 9:​5, 10.

Doedd marwolaeth ddim yn rhan o fwriad Duw. Cyn bo hir bydd Jehofah yn deffro’r meirw o’u cwsg dwfn. Os ydyn nhw’n gwrando arno, byddan nhw’n byw am byth.