Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

RHAN 1

Sut Rydyn Ni’n Gwrando ar Dduw?

Sut Rydyn Ni’n Gwrando ar Dduw?

Mae Duw yn siarad â ni drwy’r Beibl. 2 Timotheus 3:​16

Arweiniodd y gwir Dduw ddynion i ysgrifennu ei feddyliau mewn llyfr sanctaidd. Y llyfr hwnnw yw’r Beibl. Mae’n cynnwys gwybodaeth bwysig y mae Duw am i chi ei gwybod.

Duw yw’r un sydd â’r gallu i roi gwir ddoethineb inni, ac mae’n gwybod beth sydd orau er ein lles. Trwy wrando arno, fe fyddwch yn ddoethach o lawer.—Diarhebion 1:⁠5.

Mae Duw eisiau i bawb ar y ddaear ddarllen y Beibl. Mae ar gael mewn llawer o ieithoedd.

Os ydych chi eisiau gwrando ar Dduw, mae’n rhaid ichi ddarllen a deall y Beibl.

Mae pobl ym mhob man yn gwrando. Mathew 28:⁠19

Gall Tystion Jehofah eich helpu chi i ddeall y Beibl.

Maen nhw’n dysgu’r gwirionedd am Dduw ar hyd a lled y byd.

Nid oes rhaid ichi dalu am yr hyfforddiant hwn. Hefyd, gallwch ddysgu am Dduw yn Neuadd y Deyrnas Tystion Jehofah yn eich ardal chi.