RHAN 2
Pwy Yw’r Gwir Dduw?
Dim ond un gwir Dduw sydd, a’i enw yw Jehofah. (Salm 83:18, Y Beibl Cysegr-Lân) Ysbryd yw Duw; ni allwn ei weld. Mae Jehofah yn ein caru ni ac mae eisiau inni ei garu ef. Hefyd, mae eisiau inni garu pobl eraill. (Mathew 22:35-40) Duw yw’r Hollalluog, yr un a greodd bob peth.
Creadigaeth gyntaf Duw oedd ysbryd grymus, gafodd ei adnabod nes ymlaen fel Iesu Grist. Creodd Jehofah yr angylion hefyd.
Creodd Jehofah bob peth yn y nefoedd . . . ac ar y ddaear. Datguddiad 4:11
Creodd Jehofah Dduw y sêr, y ddaear, a phob peth arni.—Genesis 1:1.
Fe luniodd Adda, y dyn cyntaf, o lwch y tir.—Genesis 2:7.