RHAN 11
Ydy Jehofa yn Gwrando Arnon Ni?
Mae Duw yn clywed ein gweddi. 1 Pedr 3:12
Jehofah sy’n “gwrando gweddi.” (Salm 65:2) Y mae eisiau inni siarad ag ef o’n calonnau.
Gweddïwch ar Jehofah ac nid ar neb arall.
1 Ioan 5:14
Gallwn ni weddïo am lawer o bethau.Gweddïwch am i ewyllys Duw gael ei wneud yn y nefoedd ac ar y ddaear.
Gweddïwch yn enw Iesu i ddangos eich bod chi’n gwerthfawrogi beth a wnaeth ef ar eich cyfer chi.
Gofynnwch i Jehofah eich helpu chi i wneud beth sy’n dda. Mae’n bosib gweddïo dros ein bwyd, hefyd am waith, am loches, am ddillad, ac am ein hiechyd.