Adolygu Rhan 1
Trafodwch y cwestiynau canlynol â’r un sy’n eich helpu chi i astudio’r Beibl:
Beth sy’n apelio atoch chi am yr addewidion yn y Beibl?
(Gweler Gwers 02.)
Pam rydych chi’n credu mai Gair Duw yw’r Beibl?
Pam mae’n bwysig inni ddefnyddio enw Jehofa?
(Gweler Gwers 04.)
Mae’r Beibl yn dweud mai Duw yw’r “ffynnon sy’n rhoi bywyd.” (Salm 36:9) Ydych chi’n credu hynny?
(Gweler Gwers 06.)
Darllenwch Diarhebion 3:32.
Pam mai Jehofa yw ein Ffrind gorau?
Beth mae Jehofa yn ei ddisgwyl gan ei ffrindiau? Ydych chi’n meddwl bod hyn yn rhesymol?
Darllenwch Salm 62:8.
Pa bethau rydych chi wedi gweddïo ar Jehofa amdanyn nhw? Pa bethau eraill gallwch chi eu cynnwys yn eich gweddïau?
Sut mae Jehofa yn ateb gweddïau?
(Gweler Gwers 09.)
Darllenwch Hebreaid 10:24, 25.
Sut mae cyfarfodydd Tystion Jehofa yn gallu eich helpu chi?
Ydych chi’n meddwl bod mynychu’r cyfarfodydd yn werth yr ymdrech?
(Gweler Gwers 10.)
Pam mae’n dda inni ddarllen y Beibl yn rheolaidd? Sut rydych chi’n mynd ati i ddarllen y Beibl bob dydd?
(Gweler Gwers 11.)
Beth rydych chi wedi ei fwynhau am astudio’r Beibl hyd yn hyn?
Pa heriau rydych chi wedi eu hwynebu ers ichi ddechrau astudio’r Beibl? Beth fydd yn eich helpu chi i ddal ati i astudio?
(Gweler Gwers 12.)