Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 12

Beth Fydd yn Eich Helpu Chi i Ddal Ati i Astudio’r Beibl?

Beth Fydd yn Eich Helpu Chi i Ddal Ati i Astudio’r Beibl?

Mae astudio’r Beibl yn daith bleserus ac yn werth ei wneud, er nad yw bob amser yn hawdd. Ar adegau, efallai byddwch chi’n amau a fyddwch chi’n gallu dal ati. Pam mae’n werth yr ymdrech? Beth all eich helpu chi i ddal ati er gwaethaf anawsterau?

1. Pam mae astudio’r Beibl yn werthfawr?

“Mae gair Duw yn fyw ac yn hynod o rymus.” (Hebreaid 4:12) Mae’r Beibl yn werthfawr gan ei fod yn esbonio sut mae Duw yn meddwl a sut mae’n teimlo amdanoch chi. Mae’n rhoi gwybodaeth inni, ond hefyd doethineb a gobaith. Yn bwysicach byth, mae’n ein helpu ni i ddod yn ffrind i Jehofa. Wrth astudio’r Beibl, rydych chi’n gadael i Dduw ddylanwadu ar eich bywyd.

2. Pam mae’n bwysig gweld gwerth y gwirioneddau yn y Beibl?

Mae’r gwirioneddau yn y Beibl yn debyg i drysor. Dyna pam mae’r Beibl yn ein hannog ni: “Gafael yn y gwirionedd, a phaid â’i ollwng.” (Diarhebion 23:23) Bydd cofio pa mor werthfawr yw’r wybodaeth yn y Beibl yn ein helpu ni i ddal ati i’w astudio er gwaethaf unrhyw rwystrau.—Darllenwch Diarhebion 2:4, 5.

3. Sut gall Jehofa eich helpu chi i ddal ati i astudio?

Jehofa yw eich Creawdwr a’ch Ffrind, ac mae’n dymuno eich helpu chi i ddysgu amdano. Y mae’n gallu rhoi ichi’r “dymuniad a’r grym i weithredu.” (Darllenwch Philipiaid 2:13.) Felly, os bydd angen hwb arnoch chi o bryd i’w gilydd i astudio neu i roi’r cyngor ar waith, bydd Jehofa yn eich helpu. Os bydd angen nerth i ddygymod â rhwystrau neu wrthwynebiad, fe fydd yn ei roi ichi. Gweddïwch yn rheolaidd ar Jehofa am ei help i ddal ati i astudio’r Beibl.—1 Thesaloniaid 5:17.

CLODDIO’N DDYFNACH

Dysgwch sut i ddal ati i astudio’r Beibl er gwaethaf bywyd prysur neu wrthwynebiad. Yna ystyriwch sut bydd Jehofa yn eich helpu chi i ddal ati.

4. Gwnewch yn siŵr bod astudio’r Beibl yn flaenoriaeth

Mae’n hawdd teimlo ein bod ni’n rhy brysur i astudio’r Beibl. Beth sy’n gallu ein helpu? Darllenwch Philipiaid 1:10, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Yn eich barn chi, beth yw rhai o’r “pethau mwyaf pwysig” mewn bywyd?

  • Sut gallwch chi roi’r flaenoriaeth i astudio’r Beibl?

  1. Os ydych chi’n llenwi bwced â thywod ac yna’n ceisio ychwanegu cerrig mawr, wnân nhw ddim ffitio.

  2. Os ydych chi’n rhoi’r cerrig i mewn yn gyntaf, bydd digon o le i’r rhan fwyaf o’r tywod hefyd. Yn yr un modd, os ydych chi’n rhoi’r “pethau mwyaf pwysig” yn gyntaf yn eich bywyd, bydd digon o amser i bethau eraill hefyd

Mae astudio’r Beibl yn diwallu ein hangen ysbrydol​—sef ein hangen i adnabod Duw a’i addoli. Darllenwch Mathew 5:3, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Pa fendith sy’n dod o roi’r flaenoriaeth i astudio’r Beibl?

5. Daliwch ati er gwaethaf gwrthwynebiad

Ar adegau, efallai bydd eraill yn ceisio eich perswadio chi i roi’r gorau i astudio’r Beibl. Sylwch ar esiampl Francesco. Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiynau canlynol:

  • Yn y fideo, sut roedd teulu a ffrindiau Francesco yn ymateb pan soniodd am yr hyn yr oedd yn ei ddysgu?

  • Sut cafodd ei wobrwyo am ddal ati?

Darllenwch 2 Timotheus 2:24, 25, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Sut mae eich teulu a’ch ffrindiau yn teimlo am yr hyn rydych chi’n ei ddysgu?

  • Yn ôl yr adnodau hyn, sut dylech chi ymateb pan fydd rhywun yn anhapus eich bod chi’n astudio’r Beibl? Pam?

6. Dibynnwch ar Jehofa i’ch helpu

Wrth nesáu at Jehofa, byddwn ni’n fwy awyddus i’w blesio. Ond mae’n dal yn anodd weithiau i newid ein ffordd o fyw er mwyn cwrdd â’i safonau. Os ydych chi’n teimlo fel hynny, peidiwch â digalonni. Bydd Jehofa yn eich helpu chi. Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiynau canlynol:

  • Yn y fideo, pa newidiadau wnaeth Jim er mwyn plesio Jehofa?

  • Beth sy’n eich taro chi am ei esiampl?

Darllenwch Hebreaid 11:6, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Beth fydd Jehofa yn ei wneud ar gyfer y “rhai sy’n ei geisio’n daer,” hynny yw, pobl sy’n gweithio’n galed i ddod i’w adnabod a’i blesio?

  • Beth mae hyn yn ei ddweud am y ffordd mae Jehofa yn teimlo am eich ymdrechion i astudio’r Beibl?

BYDD RHAI YN GOFYN: “Pam rydych chi’n astudio’r Beibl?”

  • Sut byddech chi’n ateb?

CRYNODEB

Er nad yw’n hawdd bob amser, bydd astudio’r Beibl yn eich helpu chi i fwynhau bywyd am byth. Dibynnwch ar Jehofa, a bydd ef yn eich bendithio.

Adolygu

  • Pam mae gwirioneddau’r Beibl yn werthfawr i chi?

  • Sut gallwch chi ‘wneud yn siŵr o beth yw’r pethau mwyaf pwysig’?

  • Pam dylech chi ofyn i Jehofa am help i ddal ati i astudio’r Beibl?

Nod

DARGANFOD MWY

Ystyriwch bedair strategaeth sydd wedi helpu pobl i wneud defnydd doeth o’u hamser.

“Sut i Wneud Defnydd Doeth o’ch Amser” (Deffrwch!, Chwefror 2014)

Sylwch sut roedd Jehofa yn helpu un ddynes nad oedd ei gŵr yn deall pam roedd hi eisiau addoli Duw.

Mae Jehofa yn Rhoi’r Nerth Inni Gario’r Baich (5:05)

Gwelwch sut roedd dyfalbarhad un wraig yn helpu ei gŵr.

Rhoddais y Gwir ar Brawf (6:30)

Mae rhai yn dweud bod Tystion Jehofa yn chwalu teuluoedd. Ond, a ydy hynny’n wir?

“Ai Chwalu Teuluoedd y Mae Tystion Jehofa, Neu eu Cynorthwyo a’u Cryfhau?” (Erthygl ar jw.org)