Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 21

Sut Mae’r Newyddion Da yn Cael ei Gyhoeddi?

Sut Mae’r Newyddion Da yn Cael ei Gyhoeddi?

Yn fuan, bydd Jehofa yn defnyddio ei Deyrnas i gael gwared ar ein problemau i gyd. Mae’r neges hon mor bwysig, ac mae angen i bawb ei chlywed. Roedd Iesu eisiau i’w ddilynwyr rannu’r neges hon â phawb! (Mathew 28:19, 20) Sut mae Tystion Jehofa yn dilyn gorchymyn Iesu?

1. Sut mae Mathew 24:14 yn cael ei gyflawni heddiw?

Rhagfynegodd Iesu: “Bydd y newyddion da hyn am y Deyrnas yn cael eu pregethu drwy’r byd i gyd yn dystiolaeth i’r holl genhedloedd.” (Mathew 24:14) Mae Tystion Jehofa yn falch iawn o gael rhan yn y gwaith pwysig hwn. Rydyn ni’n pregethu’r newyddion da ledled y byd, mewn mwy na 1,000 o ieithoedd. Mae’r gwaith mawr hwn yn gofyn am ymdrech fawr a threfn. Ni fyddai’n bosib heb help Jehofa.

2. Beth rydyn ni’n ei wneud er mwyn pregethu i bobl?

Rydyn ni’n pregethu le bynnag mae pobl ar gael. Fel y Cristnogion yn y ganrif gyntaf, rydyn ni’n pregethu “o dŷ i dŷ.” (Actau 5:42) Drwy ddefnyddio’r dull hwn, gallwn gyrraedd miliynau o bobl bob blwyddyn. Gan nad yw pobl bob amser i’w cael yn eu cartrefi, rydyn ni’n pregethu hefyd mewn mannau cyhoeddus. Rydyn ni wastad yn edrych am gyfle i ddweud wrth eraill am Jehofa a’i bwrpas.

3. Pwy sy’n gyfrifol am bregethu’r newyddion da?

Mae cyfrifoldeb ar bob gwir Gristion i rannu’r newyddion da. Rydyn ni’n cymryd y cyfrifoldeb hwn o ddifri. Gan fod bywydau yn y fantol, rydyn ni’n gwneud ein gorau i bregethu. (Darllenwch 1 Timotheus 4:16.) Nid ydyn ni’n derbyn cyflog am y gwaith hwn, oherwydd mae’r Beibl yn dweud: “Rhowch heb dâl.” (Mathew 10:7, 8) Nid pawb sy’n derbyn ein neges, ond daliwn ati oherwydd mae pregethu yn rhan o’n haddoliad ac yn gwneud Jehofa yn hapus.

CLODDIO’N DDYFNACH

Dysgwch fwy am ymdrechion Tystion Jehofa i bregethu ledled y byd, a gwelwch sut mae Jehofa yn ein helpu.

4. Rydyn ni’n gweithio’n galed i gyrraedd pawb

Mae Tystion Jehofa yn gwneud ymdrech arbennig i bregethu i bobl le bynnag maen nhw’n byw. Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiwn canlynol.

  • Beth sy’n eich taro chi am ymdrech Tystion Jehofa i bregethu?

Darllenwch Mathew 22:39 a Rhufeiniaid 10:13-15, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Sut mae ein gweinidogaeth yn dangos ein bod ni’n caru ein cymdogion?

  • Sut mae Jehofa yn teimlo am y rhai sy’n cyhoeddi’r newyddion da?​—Gweler adnod 15.

5. Cyd-weithwyr Duw ydyn ni

Mae llawer o brofiadau yn dangos bod Jehofa yn arwain ein gwaith. Er enghraifft, un prynhawn yn Seland Newydd, roedd brawd o’r enw Paul yn mynd o dŷ i dŷ pan gwrddodd â dynes. Y bore hwnnw, roedd y ddynes wedi bod yn gweddïo ar Dduw gan ddefnyddio ei enw, Jehofa, yn gofyn am i rywun alw arni. “Dair awr wedyn,” meddai Paul, “dyma fi’n curo ar y drws.”

Darllenwch 1 Corinthiaid 3:9, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Sut mae profiadau tebyg i’r un yn Seland Newydd yn dangos bod Jehofa yn arwain y gwaith pregethu?

Darllenwch Actau 1:8, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Pam mae angen help Jehofa i gyflawni ein gweinidogaeth?

Oeddech chi’n gwybod?

Yn ein cyfarfod canol wythnos, cawn ni ein hyfforddi i bregethu. Os ydych chi wedi bod yn un o’r cyfarfodydd hyn, beth roeddech chi’n ei feddwl am yr hyfforddiant sydd ar gael?

6. Rydyn ni’n ufuddhau i Dduw drwy bregethu

Yn y ganrif gyntaf, ceisiodd gwrthwynebwyr Iesu atal ei ddilynwyr rhag pregethu. Roedd y Cristnogion cynnar yn amddiffyn eu hawl i bregethu drwy “sefydlu’r newyddion da yn gyfreithiol.” (Philipiaid 1:7) Mae Tystion Jehofa yn gwneud yr un peth heddiw. a

Darllenwch Actau 5:27-42, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

BYDD RHAI YN GOFYN: “Pam mae Tystion Jehofa yn mynd o ddrws i ddrws?”

  • Sut byddech chi’n ateb?

CRYNODEB

Dywedodd Iesu wrth ei ddilynwyr am gyhoeddi’r newyddion da i bob cenedl. Mae Jehofa yn helpu ei bobl i wneud y gwaith hwn.

Adolygu

  • Sut mae’r newyddion da yn cael ei bregethu ledled y byd?

  • Sut mae ein gweinidogaeth yn dangos ein bod ni’n caru ein cymdogion?

  • Ydych chi’n meddwl bod y gwaith pregethu yn ein gwneud ni’n hapus? Pam?

Nod

DARGANFOD MWY

Gwelwch sut mae Tystion Jehofa yn pregethu i bobl mewn dinasoedd mawr.

Tystiolaethu Cyhoeddus Metropolitan Arbennig ym Mharis (5:11)

Beth mae Tystion Jehofa wedi ei wneud i helpu ffoaduriaid?

Diwallu Anghenion Ysbrydol Ffoaduriaid (5:59)

Gwrandewch ar chwaer yn esbonio pam mae hi’n mwynhau pregethu’n llawn amser.

Dewis yr Yrfa Orau Oll (6:29)

Dysgwch am fuddugoliaethau yn y llys sydd wedi ei gwneud hi’n haws pregethu’r newyddion da.

“Amddiffyn yr Hawl i Bregethu yn y Llys” (Mae Teyrnas Dduw yn Rheoli!, pennod 13)

a Duw sy’n rhoi’r awdurdod inni bregethu. Felly nid oes angen caniatâd llywodraethau dynol ar Dystion Jehofa i gyhoeddi’r newyddion da.