Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 22

Sut Gallwch Chi Rannu’r Newyddion Da?

Sut Gallwch Chi Rannu’r Newyddion Da?

Ar ôl dysgu gwirioneddau’r Beibl, efallai byddwch yn meddwl: ‘Mae angen i bawb wybod am hyn!’ Ac mae hynny’n wir! Ond efallai eich bod chi’n teimlo braidd yn swil am geisio dweud wrth bobl eraill. Dewch inni weld sut gallwch chi dawelu eich nerfau a dechrau mwynhau rhannu’r newyddion da.

1. Sut gallwch chi rannu’r newyddion da gyda’r rhai rydych chi’n eu hadnabod?

Dywedodd disgyblion Iesu: “Dydyn ni ddim yn gallu stopio siarad am y pethau rydyn ni wedi eu gweld a’u clywed.” (Actau 4:20) Roedden nhw wrth eu boddau yn darganfod y gwir ac eisiau ei rannu â chymaint o bobl â phosib. Ai dyna sut rydych chi’n teimlo? Os felly, chwiliwch am gyfle i siarad yn barchus â’ch teulu a’ch ffrindiau am yr hyn rydych chi’n ei ddysgu.​—Darllenwch Colosiaid 4:6.

Syniadau am sut i fynd ati

  • Wrth siarad â pherthnasau, gallwch gyflwyno pwnc o’r Beibl drwy ddweud: “Dysgais rywbeth diddorol ddiwrnod o’r blaen.”

  • Rhannwch adnod galonogol gyda ffrind sy’n sâl neu’n bryderus.

  • Os bydd rhywun yn y gwaith yn gofyn sut wythnos gawsoch chi, soniwch am rywbeth rydych chi wedi ei ddysgu wrth astudio’r Beibl neu yn un o’r cyfarfodydd.

  • Dangoswch y wefan jw.org i’ch ffrindiau.

  • Gofynnwch i rywun arall ymuno yn eich sesiwn astudio’r Beibl neu dangoswch iddyn nhw sut i gyflwyno cais ar jw.org i gael help i astudio’r Beibl.

2. Pam mae pregethu gyda’r gynulleidfa yn nod sy’n werth ei gyrraedd?

Roedd disgyblion Iesu yn gwneud mwy na rhannu’r newyddion da gyda phobl roedden nhw eisoes yn eu hadnabod. Fe wnaeth Iesu eu “hanfon nhw allan o’i flaen mewn parau i mewn i bob ddinas” i bregethu. (Luc 10:1) Roedd trefnu’r gwaith pregethu fel hyn yn rhoi mwy o gyfle i bobl glywed y newyddion da. Roedd y disgyblion hefyd yn mwynhau gweithio gyda’i gilydd. (Luc 10:17) A ydych chi’n edrych ymlaen at bregethu gyda’r gynulleidfa?

CLODDIO’N DDYFNACH

Ystyriwch sut gallwch chi ddod dros eich nerfau a dechrau mwynhau rhannu’r newyddion da.

3. Bydd Jehofa yn eich helpu

Weithiau, bydd rhai sy’n meddwl am bregethu yn poeni am ei wneud yn iawn, neu am sut bydd pobl yn ymateb.

  • Ydych chi’n teimlo’n nerfus am rannu’r newyddion da? Pam, neu pam ddim?

Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiynau sy’n dilyn.

  • Beth helpodd y Tystion ifanc hyn i ddod dros eu pryderon?

Darllenwch Eseia 41:10, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Sut bydd gweddi yn eich helpu pan fyddwch chi’n teimlo’n bryderus am bregethu?

Oeddech chi’n gwybod?

Mae llawer o Dystion Jehofa wedi teimlo na fydden nhw byth yn gallu rhannu’r newyddion da ag eraill. Roedd Sergey, er enghraifft, yn ei chael hi’n anodd cyfathrebu, ac yn teimlo’n dda i ddim. Ond wedyn dechreuodd astudio’r Beibl. Y mae’n dweud: “Er gwaethaf fy mhryderon, dechreuais siarad ag eraill am yr hyn roeddwn i’n ei ddysgu. Er mawr syndod imi, roedd sôn wrth eraill am y Beibl yn rhoi hwb i mi ac yn cryfhau fy ffydd.”

4. Dangoswch barch

Wrth rannu’r newyddion da, meddyliwch nid yn unig am beth i’w ddweud ond hefyd am sut i’w ddweud. Darllenwch 2 Timotheus 2:​24 a 1 Pedr 3:15, 16, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Sut gallwch chi roi’r cyngor yn yr adnodau hyn ar waith wrth siarad ag eraill am y Beibl?

  • Efallai bydd rhai yn y teulu, neu rai o’ch ffrindiau, yn anghytuno â chi. Beth gallwch chi ei wneud? Beth na ddylech chi ei wneud?

  • Pam mae gofyn cwestiynau caredig yn well na dweud wrth bobl beth dylen nhw ei gredu?

5. Mae rhannu’r newyddion da yn dod â llawenydd

Rhoddodd Jehofa y gwaith o rannu’r newyddion da i Iesu. Sut roedd Iesu yn teimlo am y gwaith? Darllenwch Ioan 4:34, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Rydyn ni’n mwynhau bwyta bwyd maethlon ac y mae yn ein cadw ni’n fyw. Pam dywedodd Iesu fod gwneud ewyllys Duw​—gan gynnwys rhannu’r newyddion da​—yn debyg i fwyta?

  • Pa bethau da all ddigwydd os ydyn ni’n rhannu’r newyddion da?

Awgrymiadau

  • Yn y cyfarfod canol wythnos, edrychwch am syniadau am sut i ddechrau sgwrs.

  • Ceisiwch ymaelodi fel myfyriwr yn y cyfarfod canol wythnos. Bydd paratoi aseiniadau yn eich helpu i fod yn barod i siarad ag eraill.

  • Defnyddiwch yr adrannau “Bydd Rhai yn Dweud” neu “Bydd Rhai yn Gofyn” er mwyn ymarfer sut i ymateb i gwestiynau a safbwyntiau cyffredin.

BYDD RHAI YN GOFYN: “Sut mae’r hwyl?”

  • Sut gallwch chi fachu ar y cyfle i sôn am rywbeth rydych chi wedi ei ddysgu wrth astudio’r Beibl?

CRYNODEB

Mae rhannu’r newyddion da yn ein gwneud ni’n hapus ac efallai bydd yn haws na’r disgwyl.

Adolygu

  • Pam mae angen inni rannu’r newyddion da?

  • Sut gallwch chi wneud hyn mewn ffordd sy’n dangos parch?

  • Sut gallwch chi deimlo’n llai nerfus am bregethu?

Nod

DARGANFOD MWY

Ystyriwch bedair ffordd syml o rannu’r newyddion da gan ddefnyddio’r cerdyn cyswllt jw.org.

Cyflwyniad Enghreifftiol ar Gyfer Cerdyn Cyswllt jw.org (1:43)

Dysgwch am bedair rhinwedd a fydd yn eich helpu chi i rannu’r newyddion da.

“Wyt Ti’n Barod i Fod yn Bysgotwr Dynion?” (Y Tŵr Gwylio, Medi 2020)

Gwyliwch esiampl o rywun yn y Beibl sy’n gallu rhoi hyder i ni rannu’r newyddion da, hyd yn oed os ydyn ni’n ifanc.

Cei Di Hyder gan Jehofa (11:59)

Gwelwch sut gallwch chi siarad am y Beibl gydag aelodau o’ch teulu sydd ddim wedi dysgu am Jehofa.

“Helpu Ein Perthnasau i Wasanaethu Jehofa” (Y Tŵr Gwylio, Mawrth 15, 2014)