Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 38

Gwerthfawrogi Rhodd Bywyd

Gwerthfawrogi Rhodd Bywyd

Mae bywyd yn llawn pob math o brofiadau rhyfeddol. Fel arfer, mae’n bosib inni fwynhau rhai agweddau ar fywyd, hyd yn oed pan fydd problemau gynnon ni. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n ddiolchgar am fywyd? A beth yw’r rheswm pwysicaf inni wneud hynny?

1. Pam dylen ni fod yn ddiolchgar am fywyd?

Dylen ni werthfawrogi bywyd gan ei fod yn rhodd gan ein Tad cariadus, Jehofa. Ef yw’r “ffynnon sy’n rhoi bywyd”—yr un sydd wedi creu bywyd o bob math. (Salm 36:9) Y mae’n “rhoi bywyd ac anadl a phob peth i bawb.” (Actau 17:25, 28) Mae Jehofa yn rhoi popeth sydd ei angen er mwyn inni aros yn fyw. Ond ar ben hynny, mae’n gwneud hi’n bosib inni fwynhau ein bywydau.—Darllenwch Actau 14:17.

2. Sut gallwn ni ddangos i Jehofa ein bod ni’n ddiolchgar am ein bywydau?

O’r eiliad i’ch mam feichiogi, roedd Jehofa yn gofalu amdanoch. Mewn gweddi sydd wedi ei chofnodi yng Ngair Duw, dywedodd un o’i weision: “Roeddet ti’n fy ngweld i cyn bod siâp arna i!” (Salm 139:16) Mae eich bywyd yn werthfawr i Jehofa. (Darllenwch Mathew 10:29-31.) Petai rhywun yn rhoi terfyn ar fywyd rhywun arall, neu ar ei fywyd ei hun, a hynny’n fwriadol, byddai Jehofa yn drist. a (Exodus 20:13) Byddai Jehofa yn drist hefyd petaen ni’n peryglu ein bywydau yn ddiangen neu’n methu cymryd camau i amddiffyn bywydau pobl eraill. Drwy ofalu am ein bywydau ni’n hunain a pharchu bywydau pobl eraill, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n ddiolchgar am rodd bywyd.

CLODDIO’N DDYFNACH

Ystyriwch sut gallwch chi ddangos eich bod chi’n ddiolchgar am rodd bywyd.

3. Gofalwch am eich iechyd

Mae Cristnogion sydd wedi ymgysegru i Jehofa yn defnyddio eu bywydau i’w wasanaethu. Y mae fel petaen nhw’n cyflwyno eu hunain yn aberth i Dduw. Darllenwch Rhufeiniaid 12:1, 2, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Pam dylech chi ofalu am eich iechyd?

  • Sut gallwch chi wneud hynny?

4. Cymerwch gamau i sicrhau nad yw neb yn cael ei anafu neu’n colli ei fywyd

Mae’r Beibl yn ein hannog ni i osgoi arferion peryglus. Gwyliwch y FIDEO i weld rhai pethau y gallwch chi eu gwneud i gadw’n ddiogel.

Darllenwch Diarhebion 22:3, ac yna trafodwch sut gallwch chi ac eraill fod yn ddiogel . . .

  • yn y cartref.

  • yn y gweithle.

  • wrth gymryd rhan mewn chwaraeon.

  • wrth yrru cerbyd neu deithio mewn cerbyd.

5. Dangoswch barch at fywyd plentyn cyn ei eni

Defnyddiodd Dafydd iaith farddonol i ddisgrifio diddordeb Jehofa mewn bywyd a datblygiad plentyn yn y groth. Darllenwch Salm 139:​13-​17, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Yng ngolwg Jehofa, a yw bywyd yn dechrau pan fydd y fam yn beichiogi, neu pan gaiff y plentyn ei eni?

Roedd y deddfau a roddodd Jehofa i Israel gynt yn amddiffyn mamau a’u plant heb eu geni. Darllenwch Exodus 21:22, 23, New World Translation ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Sut roedd Jehofa yn teimlo am rywun oedd wedi achosi i blentyn farw yn y groth yn anfwriadol?

  • Sut byddai’n teimlo petai rhywun yn gwneud hynny yn fwriadol? b

  • Sut rydych chi’n teimlo am safbwynt Duw?

Gwyliwch y FIDEO.

Weithiau bydd dynes sy’n cydnabod bod bywyd yn werthfawr yn dal i deimlo mai erthyliad yw’r unig ddewis. Darllenwch Eseia 41:10, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Os bydd dynes dan bwysau i gael erthyliad, at bwy dylai hi droi am help? Pam?

BYDD RHAI YN DWEUD: “Mae gan bob dynes yr hawl i ddewis cael erthyliad—hi sy’n feichiog.”

  • Beth sy’n gwneud ichi gredu bod Jehofa yn gweld bywyd y fam a bywyd y plentyn yn y groth yn werthfawr?

CRYNODEB

Mae’r Beibl yn ein dysgu ni i garu, i barchu, ac i amddiffyn bywyd, sydd yn rhodd gan Jehofa. Mae hyn yn cynnwys ein bywydau ein hunain a bywydau pobl eraill.

Adolygu

  • Pam mae bywyd dynol yn werthfawr i Jehofa?

  • Sut mae Jehofa yn teimlo pan fydd rhywun yn rhoi terfyn ar fywyd dynol a hynny’n fwriadol?

  • Pam rydych chi’n ddiolchgar am eich bywyd?

Nod

DARGANFOD MWY

Sut gallwn ni ddiolch i Jehofa am rodd bywyd?

Cân 141—Gwyrth Bywyd (2:41)

A fydd Duw yn maddau i ddynes sydd wedi cael erthyliad? Gwelwch ateb y Beibl.

“Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Erthylu?” (Erthygl ar jw.org)

Ystyriwch sut dylai safbwynt Duw tuag at fywyd effeithio ar ein hamser hamdden.

“‘Chwaraeon Eithafol’—A Ddylech Chi Gymryd y Risg?” (Deffrwch!, Hydref 8, 2000)

Beth os bydd rhywun yn meddwl am ladd ei hun? Gwelwch sut gall y Beibl helpu.

“Eisiau Marw—Ydy’r Beibl yn Gallu Fy Helpu i Ymdopi â Meddyliau Hunanladdol?” (Erthygl ar jw.org)

a Mae Jehofa yn agos iawn at y rhai sy’n torri eu calonnau. (Salm 34:18) Mae’n deall y teimladau poenus sy’n gallu gwneud i rywun feddwl am ladd ei hun, ac y mae eisiau ei gysuro. I weld y gwahaniaeth mae help Jehofa yn ei wneud, gweler yr erthygl “Eisiau Marw—Ydy’r Beibl yn Gallu Fy Helpu i Ymdopi â Meddyliau Hunanladdol?” o dan y pennawd Darganfod Mwy yn y wers hon.

b Nid oes rhaid i’r rhai sydd wedi cael erthyliad gael eu llethu gan euogrwydd—mae Jehofa yn gallu maddau iddyn nhw. Am fwy o wybodaeth, gweler yr erthygl “Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Erthylu?” o dan y pennawd Darganfod Mwy yn y wers hon.