Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 52

Pam Mae Ein Gwisg a Thrwsiad yn Bwysig?

Pam Mae Ein Gwisg a Thrwsiad yn Bwysig?

Rydyn ni i gyd yn hoffi gwahanol fathau o wisg a thrwsiad. Os ydyn ni’n dilyn egwyddorion y Beibl byddwn ni’n gallu gwisgo beth rydyn ni’n ei hoffi a phlesio Jehofa ar yr un pryd. Dewch inni ystyried rhai o’r egwyddorion hynny.

1. Pa egwyddorion dylen ni eu dilyn wrth feddwl am ein gwisg a thrwsiad?

Dylen ni “wisgo’n weddus, . . . yn wylaidd a synhwyrol,” a chadw’n lân er mwyn dangos ein “defosiwn i Dduw.” (1 Timotheus 2:​9, 10) Ystyriwch y pedair egwyddor hyn: (1) Dylai ein gwisg fod yn “weddus.” Yn y cyfarfodydd, mae’n debyg eich bod chi wedi sylwi bod gan bob un o bobl Jehofa steil wahanol. Ond mae ein gwisg a’n steiliau gwallt yn dangos parch tuag at ein Duw. (2) Mae gwisgo “yn wylaidd” yn golygu peidio â gwisgo’n bryfoclyd, na thynnu gormod o sylw aton ni’n hunain. (3) Rydyn ni’n dangos ein bod ni’n “synhwyrol” drwy beidio â dilyn pob steil a ffasiwn sy’n mynd a dod. (4) Dylai ein “defosiwn i Dduw” fod yn amlwg yn y ffordd rydyn ni’n gwisgo.​—1 Corinthiaid 10:31.

2. Sut gall ein gwisg a thrwsiad effeithio ar ein brodyr a chwiorydd?

Er bod hawl gynnon ni i ddewis beth byddwn ni’n ei wisgo, dylen ni ystyried teimladau pobl eraill hefyd. Rydyn ni’n gwneud ein gorau i beidio â digio neb ond yn hytrach rydyn ni’n ceisio “plesio [ein cymydog] a gwneud beth sy’n dda iddo er mwyn ei gryfhau.”​—Darllenwch Rhufeiniaid 15:​1, 2.

3. Sut gall ein gwisg a thrwsiad denu eraill i ddysgu am Jehofa?

Rydyn ni’n ceisio gwisgo’n addas bob dydd, ond mae’n arbennig o bwysig pan fyddwn ni’n mynd i’r cyfarfodydd neu yn y weinidogaeth. Fydden ni ddim eisiau tynnu sylw oddi ar y neges am y newyddion da. Yn hytrach, dylai ein gwisg a thrwsiad ddenu eraill at y gwir, a “dangos harddwch dysgeidiaeth ein Hachubwr.”​—Titus 2:10.

CLODDIO’N DDYFNACH

Ystyriwch sut gall ein gwisg a thrwsiad ei gwneud hi’n amlwg ein bod ni’n Gristnogion.

Gall ein gwisg a thrwsiad ddangos a ydyn ni’n parchu awdurdod dynol neu beidio. Er bod Jehofa’n gallu darllen ein calonnau, dylai’r ffordd rydyn ni’n gwisgo ddangos parch tuag ato

4. Mae bod yn lân a gwisgo’n daclus yn dangos parch tuag at Jehofa

Beth yw’r rheswm pwysicaf inni wisgo’n daclus? Darllenwch Salm 47:​2, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Sut dylai’r ffaith ein bod ni’n cynrychioli Jehofa effeithio ar ein gwisg?

  • Ydych chi’n meddwl ei fod yn rhesymol i boeni am y ffordd rydyn ni’n edrych wrth fynd i’r cyfarfodydd a chael rhan yn y weinidogaeth? Pam, neu pam ddim?

5. Sut gallwn ni wneud penderfyniadau da ynglŷn â’n gwisg a thrwsiad?

Gwyliwch y FIDEO.

Does dim rhaid cael dillad drud ond mae’n bwysig eu bod nhw’n daclus ac yn addas ar gyfer y sefyllfa. Darllenwch 1 Corinthiaid 10:24 a 1 Timotheus 2:9, 10. Yna trafodwch pam byddwn ni eisiau osgoi gwisgo dillad sydd . . .

  • yn flêr neu’n rhy lac.

  • yn rhy dyn, yn dangos gormod o gnawd, neu’n bryfoclyd.

Er nad ydy Cristnogion o dan Gyfraith Moses bellach, mae’r gyfraith honno yn dangos teimladau Jehofa. Darllenwch Deuteronomium 22:5, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Pam dylen ni osgoi gwisg a thrwsiad sy’n gwneud i ddynion edrych fel merched a merched edrych fel dynion?

Darllenwch 1 Corinthiaid 10:32, 33 a 1 Ioan 2:​15, 16, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Pam dylen ni feddwl am sut gall ein gwisg effeithio ar bobl yn y gymuned neu yn y gynulleidfa?

  • Pa wahanol fathau o wisg sydd yn boblogaidd yn eich ardal chi?

  • Ydych chi’n meddwl bod y steiliau hynny yn addas ar gyfer Cristnogion? Pam neu pam ddim?

Mae’n bosib plesio Jehofa a chael steil unigryw ar yr un pryd

BYDD RHAI YN DWEUD: “Mae gen i’r hawl i ddewis pa ddillad dw i’n eu gwisgo.”

  • Ydych chi’n cytuno? Pam, neu pam ddim?

CRYNODEB

Pan fyddwn ni’n gwneud dewisiadau da am ein gwisg a thrwsiad, rydyn ni’n dangos parch tuag at Jehofa ac eraill.

Adolygu

  • Pam mae ein gwisg a thrwsiad yn bwysig i Jehofa?

  • Pa egwyddorion dylai ddylanwadu ar ein gwisg a thrwsiad?

  • Sut gall ein gwisg a thrwsiad effeithio ar sut mae eraill yn edrych ar bobl Jehofa?

Nod

DARGANFOD MWY

Gwelwch pa fath o effaith gall eich dillad eu cael ar eraill.

“Sut Ydw i’n Edrych?” (Erthygl ar jw.org)

Dysgwch pam mae’n bwysig ichi feddwl yn ofalus cyn cael tatŵ.

“Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Gael Tatŵs?” (Erthygl ar jw.org)

Ystyriwch egwyddorion ychwanegol a all ein helpu i wneud penderfyniadau da.

“Ydy’r Hyn Rwyt Ti’n ei Wisgo yn Anrhydeddu Duw?” (Y Tŵr Gwylio, Medi 2016)

Sut gwnaeth un ddynes ddiffuant ddysgu sut i dderbyn dewisiadau pobl eraill o ran gwisg?

“Roedd Gwisg a Thrwsiad yn Rhwystr i Mi” (Deffrwch!, Rhagfyr 22, 2003)