RHAN 26
Adfer Paradwys!
Trwy gyfrwng Teyrnas Crist, mae Jehofa yn sancteiddio Ei enw, yn cyfiawnhau Ei sofraniaeth, ac yn cael gwared ar bob drygioni
MAE llyfr olaf y Beibl, y Datguddiad, yn rhoi gobaith i’r holl ddynolryw. Wedi ei ysgrifennu gan yr apostol Ioan, dyma lyfr llawn gweledigaethau sy’n dangos pwrpas Duw yn cael ei gyflawni.
Yn y weledigaeth gyntaf, mae’r Iesu atgyfodedig yn canmol ac yn rhoi cyngor i rai cynulleidfaoedd. Yn y weledigaeth nesaf, fe welwn ni greaduriaid y nef yn moli Duw ar ei orsedd.
Wrth i bwrpas Duw fynd rhagddo, mae’r Oen, Iesu Grist, yn derbyn sgrôl wedi ei selio â saith sêl. Pan agorir y pedair sêl gyntaf, mae marchogion symbolaidd yn carlamu ar draws y byd. Yr un cyntaf, ar geffyl gwyn, yw Iesu wedi ei goroni’n Frenin. Nesaf, daw marchogion ar geffylau o wahanol liwiau sy’n cynrychioli rhyfel, newyn, a phlâu. Mae hyn i gyd yn digwydd yn ystod dyddiau diwethaf y drefn bresennol. Pan agorir y seithfed sêl, clywir seinio saith utgorn symbolaidd yn datgan barn Duw. Mae hyn yn arwain at saith bla symbolaidd sy’n mynegi llid Duw.
Mae Teyrnas Dduw sydd wedi ei gynrychioli gan blentyn newydd-anedig yn cael ei sefydlu yn y nef. Yna, mae rhyfel yn dechrau ac mae Satan a’i angylion drwg yn cael eu bwrw i lawr i’r ddaear. “Gwae chwi’r ddaear,” meddai llais uchel. Mae’r Diafol yn ddig dros ben, o wybod bod ei amser yn fyr.—Datguddiad 12:12.
Mae Ioan yn gweld oen yn y nef sy’n cynrychioli Iesu, ac yn teyrnasu gydag ef y mae 144,000 wedi eu dewis o blith dynolryw. Mae llyfr Datguddiad yn datgelu y bydd ail ran yr had yn cynnwys 144,000 o aelodau.—Datguddiad 14:1; 20:6.
Mae brenhinoedd y ddaear yn cael eu casglu ynghyd “i ryfel ar ddydd mawr Duw, yr Hollalluog,” sef Armagedon. Maen nhw’n rhyfela yn erbyn marchog y ceffyl gwyn, hynny yw, Iesu sy’n arwain lluoedd y nef. Mae holl reolwyr y byd yn cael eu dinistrio. Mae Satan yn cael ei rwymo, ac mae Iesu a’r 144,000 yn teyrnasu dros y byd “am fil o flynyddoedd.” Ar ôl y mil blynyddoedd, caiff Satan ei ddinistrio.—Datguddiad 16:14; 20:4.
Beth fydd Teyrnasiad Mil Blynyddoedd Crist a’i gyd-reolwyr yn ei olygu i bobl ufudd ar y ddaear? Dywed Ioan am Jehofa: “Fe sych bob deigryn o’u llygaid hwy, ac ni bydd marwolaeth mwyach, na galar na llefain na phoen. Y mae’r pethau cyntaf wedi mynd heibio.” (Datguddiad 21:4) Mae’r ddaear yn dod yn baradwys!
Mae llyfr Datguddiad yn dod â neges y Beibl i ben. Trwy gyfrwng Teyrnas y Meseia, mae enw Jehofa yn cael ei sancteiddio a’i sofraniaeth yn cael ei chyfiawnhau am byth!
—Yn seiliedig ar lyfr Datguddiad.