GWERS 9
Sut Gallwch Chi Fod yn Hapus Fel Teulu?
1. Pam mae priodas yn hanfodol ar gyfer bywyd teuluol hapus?
Mae’r newyddion da yn dod oddi wrth y Duw hapus Jehofah sy’n dymuno i deuluoedd fod yn hapus. (1 Timotheus 1:11) Trefniant wedi ei sefydlu gan Dduw yw priodas. Mae priodi yng ngolwg y gyfraith yn hanfodol i fywyd teuluol hapus oherwydd ei fod yn creu awyrgylch sefydlog ar gyfer magu plant. Dylai Cristnogion barchu cyfraith y wlad ynglŷn â chofrestru priodasau.—Darllenwch Luc 2:1, 4, 5.
Beth yw agwedd Duw tuag at briodas? Y mae’n dymuno iddi fod yn bartneriaeth barhaol rhwng dyn a dynes. Mae Jehofah yn dymuno i’r gŵr a’r wraig aros yn ffyddlon i’w gilydd. (Hebreaid 13:4) Y mae’n casáu ysgariad. (Malachi 2:16) Ond, os yw un partner yn anffyddlon yn rhywiol, y mae’n caniatáu i Gristnogion ysgaru ac ail-briodi.—Darllenwch Mathew 19:3-6, 9.
2. Sut dylai gŵr a gwraig drin ei gilydd?
Mae Jehofah wedi creu gwŷr a gwragedd i gefnogi ei gilydd mewn priodas. (Genesis 2:18) Ac yntau’n ben ar y teulu, cyfrifoldeb y gŵr yn bennaf yw darparu’n faterol ar gyfer aelodau’r teulu a’u dysgu nhw am Dduw. Dylai cariad y gŵr tuag at ei wraig fod yn anhunanol. Dylai’r gŵr a’r wraig ddangos cariad a pharch tuag at ei gilydd. Gan fod pob gŵr a gwraig yn amherffaith, mae dysgu maddau i’w gilydd yn hanfodol mewn priodas.—Darllenwch Effesiaid 4:31, 32; 5:22-25, 33; 1 Pedr 3:7.
3. A ddylech chi roi’r gorau i briodas anhapus?
Os ydych chi’n cael problemau yn eich priodas, dylech chi weithio’n galed i ddangos cariad tuag at eich gilydd. (1 Corinthiaid 13:4, 5) Nid yw Gair Duw o blaid gwahanu fel modd i ddatrys problemau sy’n gyffredin mewn priodasau.—Darllenwch 1 Corinthiaid 7:10-13.
4. Chi blant, beth mae Duw yn dymuno ichi ei gael?
Mae Jehofah yn dymuno ichi fod yn hapus. Mae’n rhoi’r cyngor gorau posibl ar sut i fwynhau eich ieuenctid. Y mae’n dymuno ichi fanteisio ar ddoethineb a phrofiadau eich rhieni. (Colosiaid 3:20) Mae Jehofah hefyd eisiau ichi brofi’r hapusrwydd sy’n dod o wasanaethu eich Creawdwr a’i Fab.—Darllenwch Pregethwr 11:9–12:1; Mathew 19:13-15; 21:15, 16.
5. Chi rieni, beth fydd yn rhoi gwir hapusrwydd i’ch plant?
Mae’n bwysig ichi weithio’n galed i roi bwyd, dillad, a rhywle i fyw i’ch plant. (1 Timotheus 5:8) Ond er mwyn i’ch plant fod yn hapus, mae angen iddyn nhw wybod sut i garu Duw a dysgu oddi wrtho. (Effesiaid 6:4) Mae eich esiampl yn hyn o beth yn gallu dylanwadu’n fawr ar galon eich plentyn. Drwy ddysgu eich plentyn ar sail Gair Duw, gallwch chi effeithio ar ei feddwl mewn modd cadarnhaol.—Darllenwch Deuteronomium 6:4-7; Diarhebion 22:6.
Mae’n bwysig iawn ichi ganmol a chalonogi eich plant. Mae angen eu cywiro a’u disgyblu hefyd. Mae hyfforddiant yn eu hamddiffyn rhag canlyniadau trist ymddygiad drwg. (Diarhebion 22:15) Ond ni ddylai disgyblaeth byth fod yn llym neu’n greulon.—Darllenwch Colosiaid 3:21.
Mae Tystion Jehofah wedi cyhoeddi sawl llyfr pwrpasol i helpu rhieni a phlant. Mae’r llyfrau hyn wedi eu seilio ar y Beibl.—Darllenwch Salm 19:7, 11.