Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Gwybodaeth ar Gyfer Cynadleddwyr

Gwybodaeth ar Gyfer Cynadleddwyr

CYFARFODYDD ARBENNIG

GWASANAETH BETHEL Dylai cyhoeddwyr hyd at 35 mlwydd oed sydd wedi eu bedyddio, ac sydd â diddordeb mewn gwasanaeth Bethel, fynd i’r cyfarfod ar gyfer ymgeiswyr Bethel brynhawn dydd Gwener. Bydd lleoliad ac amser y cyfarfod yn cael eu cyhoeddi.

YSGOL AR GYFER PREGETHWYR Y DEYRNAS Gwahoddir arloeswyr rhwng 23 a 65 mlwydd oed, sy’n awyddus i ehangu eu gweinidogaeth, i’r cyfarfod ar gyfer ymgeiswyr yr Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas brynhawn dydd Sul. Bydd lleoliad ac amser y cyfarfod yn cael eu cyhoeddi.

GWYBODAETH AR GYFER CYNADLEDDWYR

BEDYDD Oni nodir yn wahanol cedwir seddi ar gyfer ymgeiswyr bedydd o flaen y llwyfan. Dylai ymgeiswyr bedydd fynd i’r seddi hyn cyn i’r anerchiad bedydd ddechrau fore dydd Sadwrn. Dylai pob ymgeisydd ddod â thywel a dillad nofio gweddus.

CYFRANIADAU Mae’r gynhadledd hon yn rhoi cyfle inni nesáu at Jehofa mewn awyrgylch cyfforddus a hapus, ond mae’r trefniadau yn costio swm sylweddol. Mae eich cyfraniadau gwirfoddol yn helpu i dalu’r costau hyn ac yn cefnogi’r gwaith byd-eang. Os hoffech chi gyfrannu, mae blychau o gwmpas yr adeilad, wedi eu labelu’n glir. Gwerthfawrogir pob cyfraniad. Mae’r Corff Llywodraethol yn diolch ichi am gefnogi gwaith y Deyrnas.

CYMORTH CYNTAF Mae hyn ar gyfer ACHOSION BRYS YN UNIG.

EIDDO COLL Dylid mynd ag unrhyw eitemau a ddarganfyddir i’r adran Eiddo Coll. Os ydych chi’n colli rhywbeth, ewch i’r adran hon i’w gasglu. Dylid mynd â phlant sydd wedi crwydro o’u rhieni i’r adran hon. Ond nid ysgol feithrin yw hi. Gofalwch am eich plant a’u cadw gyda chi.

GWASANAETHWYR Mae’r gwasanaethwyr yno i’ch helpu. Byddwch mor garedig â dilyn eu cyfarwyddiadau ynglŷn â pharcio, symud i mewn ac allan o’r arena, cadw seddi, a phethau eraill.

GWIRFODDOLI Os hoffech chi helpu gyda gwaith y gynhadledd, ewch i’r Adran Wybodaeth a Gwirfoddoli.

SEDDI Byddwch yn ystyriol. Cadwch seddi dim ond ar gyfer y rhai sy’n teithio yn yr un car â chi, sy’n byw yn yr un tŷ, neu sy’n astudio’r Beibl gyda chi. Peidiwch â rhoi eich eiddo ar seddi nad ydych yn eu cadw.

Trefnwyd gan Gorff Llywodraethol Tystion Jehofa