Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Gwybodaeth ar Gyfer Cynadleddwyr

Gwybodaeth ar Gyfer Cynadleddwyr

CYFARFOD ARBENNIG

YSGOL AR GYFER PREGETHWYR Y DEYRNAS Gwahoddir arloeswyr rhwng 23 a 65 mlwydd oed, sy’n awyddus i ehangu eu gweinidogaeth, i’r cyfarfod ar gyfer ymgeiswyr yr Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas brynhawn dydd Sul. Bydd lleoliad ac amser y cyfarfod yn cael eu cyhoeddi.

GWYBODAETH AR GYFER CYNADLEDDWYR

BEDYDD Oni nodir yn wahanol, cedwir seddi ar gyfer ymgeiswyr bedydd o flaen y llwyfan. Dylai ymgeiswyr bedydd fynd i’r seddi hyn cyn i’r anerchiad bedydd ddechrau fore dydd Sadwrn. Dylai pob ymgeisydd ddod â thywel a dillad nofio gweddus.

CYFRANIADAU Mae’r gynhadledd hon yn rhoi cyfle inni nesáu at Jehofa mewn awyrgylch cyfforddus a hapus. Darperir digon o seddi, system sain, offer fideo, a nifer o gyfleusterau eraill, ond mae’r trefniadau hyn yn costio swm sylweddol. Mae eich cyfraniadau gwirfoddol yn helpu i dalu’r costau hyn ac yn cefnogi’r gwaith byd-eang. Os hoffech chi gyfrannu, fe welwch flychau wedi eu labelu’n glir o gwmpas yr adeilad. Gwerthfawrogir pob cyfraniad. Mae’r Corff Llywodraethol yn diolch ichi am gefnogi gwaith y Deyrnas.

CYMORTH CYNTAF Mae hyn ar gyfer ACHOSION BRYS YN UNIG.

EIDDO COLL Dylid mynd ag unrhyw eitemau a ddarganfyddir i’r adran Eiddo Coll. Os ydych chi’n colli rhywbeth, ewch i’r adran hon i’w gasglu. Dylid mynd â phlant sydd wedi crwydro o’u rhieni i’r adran hon. Ond er mwyn osgoi pryder di-angen, gofalwch am eich plant a’u cadw nhw gyda chi.

GWASANAETHWYR Mae’r gwasanaethwyr yno i’ch helpu. Byddwch mor garedig â dilyn eu cyfarwyddiadau ynglŷn â pharcio, symud i mewn ac allan o’r adeilad, cadw seddi, a materion eraill.

GWIRFODDOLI Os hoffech chi helpu gyda gwaith y gynhadledd, ewch i’r Adran Wybodaeth a Gwirfoddoli.

SEDDI Byddwch yn ystyriol. Cadwch seddi dim ond ar gyfer eich teulu agosaf, y rhai sy’n teithio yn yr un car â chi, sy’n byw yn yr un tŷ, neu sy’n astudio’r Beibl gyda chi. Peidiwch â rhoi eich eiddo ar seddi nad ydych yn eu cadw.

Trefnir gan Gorff Llywodraethol Tystion Jehofa