Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Gwybodaeth ar Gyfer Cynadleddwyr

Gwybodaeth ar Gyfer Cynadleddwyr

BEDYDD Oni nodir yn wahanol, cedwir seddi ar gyfer ymgeiswyr bedydd o flaen y llwyfan. Dylai ymgeiswyr bedydd fynd i’r seddi hyn cyn i’r anerchiad bedydd ddechrau ar fore Sadwrn. Dylai pob ymgeisydd ddod â thywel a dillad nofio gweddus.

CYFRANIADAU Mae cael digon o seddi, system sain, offer fideo, a nifer o gyfleusterau eraill yn gallu bod yn ddrud, ond maen nhw’n ein helpu ni i fwynhau’r gynhadledd yn ogystal ag agosáu at Jehofa. Mae eich cyfraniadau gwirfoddol yn helpu i dalu’r costau hyn ac yn cefnogi’r gwaith byd-eang. Os hoffech chi gyfrannu, mae ’na flychau o gwmpas yr adeilad sydd wedi eu labelu’n glir. Gallwch hefyd gyfrannu ar lein drwy fynd i donate.pr418.com. Mae’r Corff Llywodraethol yn gwerthfawrogi pob cyfraniad rydych chi’n ei wneud i gefnogi gwaith y Deyrnas.

CYMORTH CYNTAF Mae hyn ar gyfer achosion brys yn unig.

EIDDO COLL Cymerwch unrhyw eitemau rydych chi’n eu ffeindio i’r Adran Eiddo Coll. Os ydych chi’n colli rhywbeth, ewch i’r adran hon i’w gasglu. Mae’r adran hon hefyd yn gofalu am blant sydd wedi crwydro oddi wrth eu rhieni a mynd ar goll. Er mwyn osgoi pryder di-angen, gofalwch am eich plant a’u cadw nhw gyda chi.

GWASANAETHWYR Mae’r gwasanaethwyr yno i’ch helpu. Plîs dilynwch eu cyfarwyddiadau ynglŷn â pharcio, mynd i mewn ac allan o’r adeilad, cadw seddi, a materion eraill.

GWIRFODDOLI Os hoffech chi helpu gyda’r gwaith sy’n mynd ymlaen yn ystod y gynhadledd, ewch i’r Adran Wybodaeth a Gwirfoddoli.

SEDDI Byddwch yn ystyriol. Cofiwch, gewch chi ond cadw seddi ar gyfer eich teulu agosaf, y rhai sy’n teithio yn yr un car â chi, sy’n byw yn yr un tŷ â chi, neu sy’n astudio’r Beibl â chi. Peidiwch â rhoi eich eiddo ar seddi nad ydych chi am eu defnyddio.

Trefnwyd gan Gorff Llywodraethol Tystion Jehofa

© 2024 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania