Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 7

Dyn Dewr

Dyn Dewr

ROEDD mwy a mwy o bobl yn byw ar y ddaear a’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n ddrwg fel Cain. Sut bynnag, roedd un dyn yn wahanol. Enoch oedd ei enw, ac roedd yn ddyn dewr. Roedd pawb o’i gwmpas yn gwneud pethau drwg iawn, ond daliodd Enoch ati i wasanaethu Duw.

Wyt ti’n gwybod pam roedd y bobl bryd hynny yn gwneud cymaint o bethau drwg? Wel, wyt ti’n cofio pwy a wnaeth i Adda ac Efa gymryd y ffrwyth yr oedd Duw wedi dweud na ddylen nhw ei fwyta? Ie, yr angel drwg! Mae’r Beibl yn ei alw’n Satan. Byddai Satan yn hoffi i bawb fod yn ddrwg.

Un diwrnod, gofynnodd Jehofa i Enoch ddweud wrth y bobl: ‘Ryw ddydd, mae Duw yn mynd i ddinistrio’r bobl ddrwg i gyd.’ Ond doedd neb eisiau clywed y neges ac mae’n debyg eu bod nhw wedi digio’n fawr. Mae’n bosibl iddyn nhw geisio lladd Enoch. Felly, roedd rhaid i Enoch fod yn ddewr iawn i roi neges Duw i’r bobl.

Wnaeth Duw ddim gadael i Enoch fyw yn hir yng nghanol yr holl bobl ddrwg. Dim ond 365 mlwydd oed oedd Enoch pan fu farw. Pam rydyn ni’n dweud “dim ond 365 mlwydd oed”? Oherwydd yn y dyddiau hynny, roedd pobl yn llawer cryfach ac yn byw yn llawer hirach nag y mae pobl heddiw. Bu farw Methwsela, mab Enoch, yn 969 mlwydd oed!

Ar ôl i Enoch farw, aeth y bobl o ddrwg i waeth. Mae’r Beibl yn dweud bod eu ‘meddyliau bob amser yn ddrwg’ a bod ‘y ddaear yn llawn trais.’

Wyt ti’n gwybod pam y bu cymaint o helynt ar y ddaear yr adeg hynny? Oherwydd bod Satan wedi dyfeisio ffordd newydd o gael pobl i wneud pethau drwg. Byddwn ni’n dysgu am hynny nesaf.