Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

RHAN 2

O’r Dilyw hyd at y Waredigaeth o’r Aifft

O’r Dilyw hyd at y Waredigaeth o’r Aifft

Dim ond wyth o bobl a oroesodd y Dilyw, ond ymhen amser fe dyfodd y boblogaeth nes bod miloedd ar filoedd yn byw ar y ddaear. Yna, 352 o flynyddoedd ar ôl y Dilyw, cafodd Abraham ei eni. Byddwn ni’n dysgu sut y gwnaeth Duw gadw ei addewid drwy roi mab o’r enw Isaac i Abraham. O’r ddau fab a gafodd Isaac, Jacob oedd yr un a gafodd ei ddewis gan Dduw.

Roedd gan Jacob ddeuddeg mab a nifer o ferched. Roedd meibion Jacob yn casáu eu brawd bach Joseff, ac fe wnaethon nhw ei werthu i fod yn gaethwas yn yr Aifft. Yn nes ymlaen, daeth Joseff yn rheolwr pwysig yn yr Aifft. Pan ddaeth newyn mawr ar yr ardal, rhoddodd Joseff brawf ar ei frodyr i weld a oedden nhw wedi newid eu hagwedd. Yn y pen draw, 290 o flynyddoedd ar ôl i Abraham gael ei eni, symudodd teulu Jacob i’r Aifft.

Roedd teulu Jacob, yr Israeliaid, yn byw yn yr Aifft am 215 o flynyddoedd. Ar ôl i Joseff farw, daethon nhw’n gaethweision. Ymhen amser, cafodd Moses ei eni. Byddai Duw yn defnyddio Moses i arwain yr Israeliaid allan o’r Aifft. Mae RHAN 2 yn adrodd hanes 857 o flynyddoedd.

 

YN Y RHAN HON

STORI 11

Yr Enfys Gyntaf

Bob tro rwyt ti’n gweld enfys, o beth y dylai hynny dy atgoffa?

STORI 12

Codi Tŵr Mawr

Doedd Duw ddim yn hapus, ac mae’r gosb yn effeithio ar bobl hyd heddiw.

STORI 13

Abraham​—Ffrind i Dduw

Pam gwnaeth Abraham adael ei gartref cyffyrddus i fyw mewn pebyll am weddill ei oes?

STORI 14

Profi Ffydd Abraham

Pam gofynnodd Duw i Abraham offrymu ei fab?

STORI 15

Gwraig Lot

Mae gwers i ni yn yr hyn a wnaeth gwraig Lot.

STORI 16

Gwraig Dda i Isaac

Oedd Rebeca yn wraig dda oherwydd ei bod hi’n brydferth neu a oedd rheswm arall?

STORI 17

Jacob ac Esau

Roedd Isaac yn caru Esau, ond cannwyll llygad Rebeca oedd Jacob.

STORI 18

Jacob yn Mynd i Haran

Priododd Jacob â Lea yn gyntaf er ei fod mewn cariad â Rachel.

STORI 19

Teulu Mawr Jacob

A gafodd 12 llwyth Israel ei henwi ar ôl 12 mab Jacob?

STORI 20

Dina yn Mynd i Helynt

Dechrau y cyfan oedd ffrindiau drwg.

STORI 21

Brodyr Cas Joseff

Pam fyddai rhai eisiau lladd eu brawd?

STORI 22

Joseff yn y Carchar

Aeth i’r carchar nid oherwydd iddo dorri’r gyfraith, ond oherwydd iddo wneud yr hyn sy’n iawn.

STORI 23

Breuddwydion Pharo

Mae gan y saith o wartheg a’r saith dywysen rhywbeth yng nghyffredin.

STORI 24

Rhoi Prawf ar y Brodyr

Sut gall Joseff wybod a yw ei frodyr wedi newid ers iddyn nhw ei werthu fel caethwas?

STORI 25

Symud i’r Aifft

Pam y gelwir teulu Jacob yn Israeliaid yn hytrach na Jacobiaid?

STORI 26

Ffyddlondeb Job

Collodd Job ei gyfoeth, ei iechyd, a’i blant i gyd. A oedd Duw yn ei gosbi?

STORY 27

Brenin Drwg yn yr Aifft

Pam gorchmynnodd Pharo i bob bachgen oedd yn cael ei eni i’r Israeliaid gael ei ladd?

STORI 28

Babi yn Cael ei Achub

Mae Pharo yn gorchymyn i fechgyn yr Israeliaid gael eu lladd, ond mae mam Moses yn gweld ffordd o achub ei mab.

STORI 29

Moses yn Ffoi

Roedd Moses yn meddwl ei fod yn barod i achub yr Israeliaid pan oedd yn 40 mlwydd oed, ond roedd yn anghywir

STORI 30

Perth yn Llosgi

Gyda chyfres o wyrthiau mae Duw yn dweud wrth Moses bod yr amser wedi dod iddo arwain yr Israeliaid allan o’r Aifft.

STORI 31

Gerbron Pharo

Pam nad yw Pharo’n gwrando ar Moses a gadael i’r Israeliaid fynd?

STORI 32

Y Deg Pla

Anfonodd Duw y deg pla ar yr Aifft oherwydd ystyfnigrwydd Pharo yn gwrthod gadael i’r Israeliaid fynd.

STORI 33

Croesi’r Môr Coch

Moses yn gwahanu’r Môr Coch trwy ddefnyddio grym Dduw ac mae’r Israeliaid yn croesi ar dir sych.