STORI 17
Jacob ac Esau
MAE’R ddau fachgen yma yn wahanol iawn i’w gilydd. Wyt ti’n gwybod pwy ydyn nhw? Esau yw’r heliwr a Jacob yw’r bugail.
Meibion i Isaac a Rebeca oedd Esau a Jacob, ac roedden nhw’n efeilliaid. Roedd Isaac yn meddwl y byd o Esau oherwydd ei fod yn heliwr da a oedd yn dod â bwyd adref i’r teulu. Ond, cannwyll llygad Rebeca oedd Jacob oherwydd ei fod yn fachgen tawel, heddychlon.
Roedd Abraham, taid y bechgyn, yn dal yn fyw, ac fe allwn ni ddychmygu Jacob yn mwynhau gwrando ar ei daid yn siarad am Jehofa. Bu farw Abraham yn 175 mlwydd oed pan oedd yr efeilliaid yn 15 mlwydd oed.
Pan oedd Esau’n 40 mlwydd oed, fe briododd ddwy ferch o wlad Canaan. Roedd Isaac a Rebeca’n drist oherwydd bod eu mab wedi dewis gwragedd nad oedden nhw’n addoli Jehofa.
Un diwrnod, digwyddodd rhywbeth a wnaeth i Esau wylltio’n llwyr wrth ei frawd Jacob. Daeth hi’n amser i Isaac fendithio ei fab hynaf. Gan ei fod yn hŷn na Jacob, roedd Esau yn disgwyl cael y fendith. Ond roedd Esau eisoes wedi gwerthu’r hawl i dderbyn y fendith i Jacob. Hefyd, pan gafodd y bechgyn eu geni, dywedodd Duw mai Jacob a fyddai’n derbyn y fendith. A dyna beth ddigwyddodd. Rhoddodd Isaac y fendith i Jacob.
Yn ddiweddarach, pan welodd Esau beth oedd wedi digwydd, roedd yn gandryll a dywedodd ei fod am ladd ei frawd. Pan glywodd Rebeca am hyn, roedd hi’n pryderu’n fawr ac yn meddwl y dylai Jacob fynd i ffwrdd am sbel. Hefyd roedd hi’n awyddus i Jacob briodi merch a oedd yn addoli Jehofa. Felly, dywedodd wrth Isaac: ‘Byddai’n ofnadwy petai Jacob yn gwneud yr un peth â’i frawd a phriodi merch o wlad Canaan.’
Ar hynny, dywedodd Isaac wrth ei fab Jacob: ‘Paid â phriodi merch o wlad Canaan. Dos at deulu dy daid Bethuel yn Haran a dewis un o ferched Laban ei fab.’
Gwrandawodd Jacob ar ei dad a chychwynodd ar y daith hir i Haran, lle roedd ei berthnasau’n byw.