Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 24

Rhoi Prawf ar y Brodyr

Rhoi Prawf ar y Brodyr

ROEDD Joseff eisiau gwybod a oedd ei frodyr yn dal i fod yn gas ac yn greulon. Felly, dywedodd: ‘Ysbïwyr ydych chi, wedi dod yma i gasglu gwybodaeth am ein gwlad.’

‘Nage wir. Dynion gonest ydyn ni,’ medden nhw. ‘Brodyr ydyn ni. Roedd deuddeg ohonon ni ar un adeg, ond mae un brawd wedi mynd, ac mae’r ieuengaf wedi aros gartref gyda’n tad.’

Cymerodd Joseff arno nad oedd yn eu credu. ‘Cewch chi fynd â bwyd adref i’ch teuluoedd,’ meddai. ‘Ond pan ddewch chi’n ôl, mae’n rhaid ichi ddod â’ch brawd ieuengaf ataf er mwyn imi gael ei weld. Tan hynny, fe gadwa’ i un ohonoch chi yn y carchar.’

Ar ôl mynd adref, dywedon nhw wrth eu tad beth oedd wedi digwydd. Roedd Jacob yn drist iawn. ‘Mae Joseff wedi marw,’ meddai, ‘ac mae Simeon wedi mynd nawr. Chewch chi ddim mynd â Benjamin oddi arnaf.’ Ond pan ddaeth y bwyd i ben, roedd rhaid i Jacob adael iddyn nhw fynd â Benjamin i’r Aifft er mwyn prynu mwy o fwyd.

Teimlodd Joseff yn hapus iawn pan welodd ei frawd ieuengaf Benjamin yn cyrraedd. Wrth gwrs, doedd y brodyr ddim yn gwybod mai Joseff oedd y dyn pwysig hwn. Sut bynnag, roedd Joseff am roi prawf ar ei frodyr.

Dywedodd wrth ei weision am lenwi sachau’r brodyr â bwyd ac am guddio ei gwpan arian ei hun yn dawel bach yn sach Benjamin. Cychwynnodd y brodyr ar eu taith adref, ond doedden nhw ddim wedi mynd yn bell cyn i Joseff anfon ei weision ar eu holau. Wedi iddyn nhw ddal i fyny â’r brodyr, dywedodd y gweision: ‘Pam rydych chi wedi dwyn cwpan ein meistr?’

‘Dydyn ni ddim wedi dwyn ei gwpan,’ meddai’r brodyr yn syn. ‘Os ydych chi’n dod o hyd i’r cwpan yn sach unrhyw un ohonon ni, fe gewch chi ladd y lleidr.’

Chwiliodd y dynion trwy’r sachau i gyd, a darganfod y cwpan yn sach Benjamin. Dywedodd y gweision wrth y brodyr: ‘Cewch chithau fynd, ond mae’n rhaid i Benjamin ddod gyda ni.’ Beth byddai’r brodyr yn ei wneud?

Aethon nhw i gyd yn ôl i dŷ Joseff. Dywedodd ef: ‘Cewch chi i gyd fynd adref heblaw am Benjamin. Mae’n rhaid iddo ef aros yma a bod yn was imi.’

Ar hynny, camodd Jwda ymlaen a dweud: ‘Os af adref heb fy mrawd, bydd fy nhad yn marw oherwydd ei fod yn caru Benjamin yn fawr iawn. Gad i minnau aros yn ei le a bod yn was ichi. Ond gad i’r bachgen fynd adref.’

Gallai Joseff weld bod ei frodyr wedi newid. Doedden nhw ddim yn gas nac yn greulon mwyach. Gad inni weld beth a wnaeth Joseff nesaf.