STORI 12
Codi Tŵr Mawr
AETH blynyddoedd heibio. Cafodd meibion Noa lawer o blant, a chafodd eu plant nhw lawer o blant. Yn fuan iawn, roedd nifer mawr o bobl ar y ddaear.
Un ohonyn nhw oedd Nimrod, gor-ŵyr i Noa. Dyn drwg oedd Nimrod a oedd yn hoffi hela a lladd dynion yn ogystal ag anifeiliaid. Fe wnaeth ei hun yn frenin ar y bobl. Doedd Duw ddim yn hoffi Nimrod.
Roedd pawb yn y dyddiau hynny yn siarad yr un iaith. Roedd Nimrod eisiau cadw’r bobl gyda’i gilydd fel y byddai’n gallu rheoli dros bawb. Felly, a wyt ti’n gwybod beth a wnaeth ef? Fe ddywedodd wrth y bobl am adeiladu dinas a chodi tŵr mawr ynddi. Wyt ti’n gweld y bobl yn y llun yn gwneud brics?
Ond doedd y gwaith adeiladu ddim yn plesio Jehofa. Roedd Duw yn dymuno i bobl symud i fyw i rannau eraill o’r ddaear. Ond dywedodd y bobl: ‘Dewch! Beth am inni adeiladu dinas i ni’n hunain a chodi tŵr a’i ben yn y nefoedd? Wedyn, fe fyddwn ni’n enwog!’ Eisiau’r clod iddyn nhw eu hunain roedden nhw, yn hytrach na rhoi’r clod i Dduw.
Felly fe wnaeth Duw atal y bobl rhag adeiladu’r tŵr. Wyt ti’n gwybod beth a wnaeth? Fe achosodd i’r bobl siarad gwahanol ieithoedd. Doedden nhw ddim yn gallu deall ei gilydd bellach. Dyna pam cafodd y ddinas ei galw’n Babel, neu Fabilon, sy’n golygu “Dryswch.”
Dechreuodd y bobl adael y ddinas, a symud i rannau eraill o’r ddaear. Aeth grwpiau a oedd yn siarad yr un iaith i fyw gyda’i gilydd.