Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 11

Yr Enfys Gyntaf

Yr Enfys Gyntaf

A WYT ti’n gwybod beth oedd y peth cyntaf i Noa ei wneud ar ôl iddo ef a’i deulu ddod allan o’r arch? Edrycha ar y llun. Mae Noa yn offrymu anifeiliaid yn anrheg i Dduw er mwyn diolch iddo am gadw ei deulu’n ddiogel trwy’r Dilyw.

Oedd yr anrheg hon yn plesio Jehofa? Oedd, yn wir. Ac felly, fe wnaeth Duw addo i Noa na fyddai byth eto’n dinistrio’r byd trwy ddyfroedd dilyw.

Cyn bo hir, roedd y tir i gyd wedi sychu, ac roedd Noa a’i deulu yn dechrau bywyd newydd y tu allan i’r arch. Bendithiodd Duw nhw a dweud: ‘Mae eisiau i chi gael llawer o blant, ac i’ch plant gael llawer o blant nes bod y ddaear yn llawn pobl unwaith eto.’

Ond yn nes ymlaen, pan glywai pobl hanes y Dilyw, efallai y bydden nhw’n poeni y gallai’r un peth ddigwydd eto. Felly, rhoddodd Duw arwydd i atgoffa pobl o’i addewid i beidio â boddi’r ddaear byth eto. Wyt ti’n gwybod beth oedd yr arwydd hwnnw? Yr enfys!

Yn aml, rydyn ni’n gweld enfys yn yr awyr pan fydd yr haul yn tywynnu ar ôl cawod o law. Mae llawer o liwiau hardd i’w gweld mewn enfys. Wyt ti erioed wedi gweld un? A fedri di weld yr enfys yn y llun?

Dywedodd Duw: ‘Dyma fy addewid i chi: Fydda’ i byth eto yn dinistrio’r bobl a’r anifeiliaid i gyd mewn dilyw. Gosodaf fy enfys yn y cymylau. Bob tro y gwelaf yr enfys, byddaf yn cofio am fy addewid.’

Felly, pan weli dithau’r enfys, beth dylet ti ei gofio? Ie, dylet ti gofio am addewid Duw i beidio ag anfon dilyw byth eto i ddinistrio’r byd.