Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 39

Ffon Aaron yn Blodeuo

Ffon Aaron yn Blodeuo

WELI di’r blodau a’r almonau yn tyfu ar y ffon? Ffon Aaron yw hon. Tyfodd y blodau a’r ffrwythau arni dros nos! Pam digwyddodd hynny?

Roedd yr Israeliaid wedi bod yn crwydro yn yr anialwch ers cryn amser. Roedd rhai ohonyn nhw’n meddwl na ddylai Moses fod yn arweinydd arnyn nhw ac na ddylai Aaron fod yn archoffeiriad. Ymhlith y bobl a gredai hynny oedd Cora, Dathan, Abiram, a 250 o benaethiaid eraill. Aethon nhw i gyd at Moses a dweud: ‘Pam rwyt ti’n meddwl dy fod ti’n fwy pwysig na’r gweddill ohonon ni?’

Dywedodd Moses wrth Cora a’i ddilynwyr: ‘Yn y bore, cymerwch bob un ei thuser a rhowch arogldarth ynddo. Dewch i dabernacl Jehofa ac yna fe welwn ni pwy y bydd Jehofa yn ei ddewis.’

Drannoeth, aeth Cora i’r tabernacl gyda 250 o’i ddilynwyr. Aeth llawer o bobl eraill hefyd i’w cefnogi nhw. Ond roedd Jehofa yn ddig iawn. ‘Ewch allan o bebyll y dynion drwg yma,’ dywedodd Moses wrth y bobl. ‘Peidiwch â chyffwrdd â dim byd o’u heiddo.’ Gwrandawodd y bobl a symudon nhw draw oddi wrth bebyll Cora, Dathan ac Abiram.

Yna dywedodd Moses: ‘Dyma sut y gwyddoch chi pwy y mae Jehofa wedi ei ddewis. Bydd y ddaear yn agor ac yn llyncu’r dynion drwg hyn.’

Ar y gair, dyma’r ddaear yn hollti o dan eu traed. Diflannodd pabell ac eiddo Cora yn ogystal â Dathan, Abiram, a’r holl bobl a oedd wedi ochri gyda nhw, a chaeodd y ddaear amdanyn nhw. Pan glywodd gweddill yr Israeliaid yr holl sgrechian, fe waeddon nhw: “Rhedwch, rhag ofn i’r ddaear ein llyncu ninnau hefyd!”

Roedd Cora yn dal i sefyll ger y tabernacl gyda 250 o’i ddilynwyr. Felly, anfonodd Jehofa dân i’w difa. Yna, dywedodd Jehofa wrth Eleasar am gasglu thuserau’r rhai a fu farw a defnyddio’r metel fel haen i addurno’r allor. Roedd yr haen fetel yn atgoffa’r Israeliaid na ddylai neb ond Aaron a’i feibion fod yn offeiriaid i Jehofa.

Ond roedd Jehofa am roi arwydd clir i ddangos ei fod wedi dewis Aaron a’i feibion i fod yn offeiriaid. Felly, dywedodd wrth Moses: ‘Dewiswch un dyn i gynrychioli pob un o’r deuddeg tylwyth a gofynnwch iddyn nhw ddod â’u ffyn. Gofynnwch i Aaron ddod â’i ffon yntau i gynrychioli tylwyth Lefi. Yna, rhowch y ffyn i gyd yn y tabernacl o flaen arch y cyfamod. Yfory, bydd blodau wedi tyfu ar ffon yr un rydw i wedi ei ddewis i fod yn offeiriad.’

Pan aeth Moses i edrych ar y ffyn y bore wedyn, roedd blodau ac almonau yn tyfu ar ffon Aaron! Felly, wyt ti’n deall nawr pam roedd Jehofa wedi gwneud i flodau dyfu ar ffon Aaron?

Numeri 16:1-49; 17:1-11; 26:10.