Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 48

Trigolion Doeth Gibeon

Trigolion Doeth Gibeon

ROEDD trigolion llawer o ddinasoedd gwlad Canaan yn paratoi i ymladd yn erbyn Israel, gan ddisgwyl ennill. Ond mewn dinas o’r enw Gibeon, ger Jericho, doedd y bobl ddim yn disgwyl ennill. Roedden nhw’n credu bod Duw yn helpu pobl Israel, ac nid oedden nhw am frwydro yn erbyn Duw. Felly, wyt ti’n gwybod beth a wnaethon nhw?

Penderfynon nhw gogio eu bod nhw wedi dod o wlad bell. Dyma nhw’n gwisgo hen ddillad carpiog a sandalau wedi eu treulio. Rhoddon nhw hen sachau ar gefn eu hasynnod a chymryd bara a oedd wedi sychu a llwydo. Yna fe aethon nhw at Josua a dweud: ‘Rydyn ni wedi dod o wlad bell oherwydd ein bod ni wedi clywed am eich Duw mawr, Jehofa, a’r holl bethau a wnaeth drosoch chi yn yr Aifft. Felly, dyma ein harweinwyr yn dweud y dylen ni gymryd bwyd ar gyfer y daith a dod i’ch cyfarfod chi a dweud wrthych: “Eich gweision ydyn ni. Wnewch chi gytundeb â ni i beidio â rhyfela yn ein herbyn?” Rydych yn gweld o’n dillad ein bod ni wedi dod o bell. Mae ein bara wedi hen sychu a llwydo.’

Roedd Josua a’r arweinwyr eraill yn credu pobl Gibeon. Felly, fe gytunon nhw i beidio ag ymladd yn eu herbyn. Ond ymhen tridiau dyma bobl Israel yn darganfod mai pobl leol oedd y Gibeoniaid!

‘Pam dywedoch chi eich bod wedi dod o wlad bell?’ gofynnodd Josua.

Atebodd pobl Gibeon: ‘Roedden ni wedi clywed bod Jehofa eich Duw wedi addo rhoi’r wlad gyfan i chi. Felly, roedden ni’n ofni y byddech chi’n ein lladd ni.’ Ond cadwodd yr Israeliaid eu haddewid a gadael i bobl Gibeon fyw. Ac fe ddaethon nhw’n weision i bobl Israel.

Pan glywodd brenin Jerwsalem fod trigolion Gibeon wedi gwneud heddwch ag Israel, fe ddigiodd. Anfonodd air at bedwar brenin arall gan ddweud: ‘Dewch i ymosod ar Gibeon gyda mi.’ A dyna beth ddigwyddodd. A oedd trigolion Gibeon wedi bod yn ddoeth i wneud heddwch ag Israel neu a fydden nhw’n difaru gwneud i’r brenhinoedd eraill ddod i ryfela yn eu herbyn? Gad inni weld.