Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 43

Arweinydd Newydd

Arweinydd Newydd

ROEDD Moses yn gobeithio cael mynd i mewn i wlad Canaan gyda’r Israeliaid. Gofynnodd i Jehofa: ‘Gad imi groesi’r Iorddonen, a gweld y wlad sydd ar yr ochr arall.’ Ond atebodd Jehofa: ‘Dyna ddigon! Paid â sôn am hyn byth eto!’ Wyt ti’n gwybod pam y dywedodd Jehofa hynny?

Wyt ti’n cofio beth ddigwyddodd pan drawodd Moses y graig? Ni wnaeth Moses nac Aaron roi’r clod i Jehofa am wneud i’r dŵr lifo o’r graig. Dyna pam y dywedodd Jehofa na fydden nhw’n cael mynd i mewn i wlad Canaan.

Ychydig o fisoedd ar ôl i Aaron farw, dywedodd Jehofa wrth Moses: ‘Cymer Josua, a dos ag ef i sefyll o flaen Eleasar yr offeiriad ac o flaen y bobl i gyd. Yno, gerbron pawb, dyweda mai Josua fydd yr arweinydd newydd.’ Gwnaeth Moses yn union fel yr oedd Jehofa wedi dweud wrtho, fel y gweli di yn y llun.

Yna, dywedodd Jehofa wrth Josua: ‘Bydd yn gryf a phaid ag ofni. Ti fydd yn arwain yr Israeliaid i’r wlad a addewais iddyn nhw, a byddaf fi gyda thi.’

Yn nes ymlaen, dywedodd Jehofa wrth Moses am ddringo i gopa Mynydd Nebo yng ngwlad Moab. Oddi yno, gallai Moses edrych dros yr Iorddonen a gweld gwlad hyfryd Canaan. Dywedodd Jehofa: ‘Dyma’r wlad a addewais i ddisgynyddion Abraham, Isaac, a Jacob. Fe gei di ei gweld, ond chei di ddim croesi i mewn iddi.’

Bu farw Moses ar ben Mynydd Nebo. Roedd yn 120 mlwydd oed. Roedd yn dal yn gryf a’i lygaid yn dal yn graff. Roedd y bobl yn drist iawn ac fe wnaethon nhw grio ar ôl clywed bod Moses wedi marw. Ond roedden nhw’n hapus i gael Josua yn arweinydd newydd arnyn nhw.

Numeri 27:12-23; Deuteronomium 3:23-29; 31:1-8, 14-23; 32:45-52; 34:1-12.