Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 36

Y Llo Aur

Y Llo Aur

BETH yn y byd sy’n digwydd yma? Beth mae’r bobl yn ei wneud? Maen nhw’n addoli llo aur! Beth sy’n bod arnyn nhw?

Wrth i’r amser fynd heibio a dim golwg o Moses yn dychwelyd o’r mynydd, dyma’r bobl yn dweud: ‘Dydyn ni ddim yn gwybod beth sydd wedi digwydd i Moses. Well inni wneud duw i’n harwain ni o’r lle hwn.’

‘O’r gorau,’ meddai Aaron, brawd Moses. ‘Tynnwch eich clustlysau aur a dewch â nhw ata’ i.’ Casglodd Aaron y clustlysau a’u toddi er mwyn gwneud llo aur. Dywedodd y bobl: ‘Dyma ein Duw a ddaeth â ni allan o’r Aifft!’ Yna, cawson nhw barti mawr i ddathlu ac i addoli’r llo aur.

Roedd Jehofa yn ddig iawn pan welodd hyn. Dywedodd wrth Moses: ‘Brysia! Dos i lawr y mynydd. Mae’r bobl yn gwneud rhywbeth ofnadwy o ddrwg. Maen nhw wedi anghofio fy ngorchmynion ac maen nhw’n addoli llo aur.’

Rhuthrodd Moses i lawr y mynydd. Wrth iddo nesáu at y gwersyll, roedd yn medru clywed y canu ac yn gweld y bobl yn dawnsio o gwmpas y llo aur! Roedd Moses mor ddig nes iddo gymryd y ddwy lech gyda gorchmynion Duw arnyn nhw a’u taflu i’r llawr a’u torri’n deilchion. Yna, cymerodd y llo aur a’i doddi. Wedyn, malodd Moses y metel yn fân a’i droi’n llwch.

Roedd y bobl wedi gwneud rhywbeth drwg iawn. Dywedodd Moses wrth rai o’r dynion am fynd i nôl eu cleddyfau. ‘Rhaid ichi ladd pawb sydd wedi addoli’r llo aur,’ meddai Moses. Lladdodd y dynion 3,000 o bobl! Mae hyn yn dangos pa mor bwysig yw peidio ag addoli neb arall ond Jehofa.

Exodus 32:1-35.