Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 40

Moses yn Taro’r Graig

Moses yn Taro’r Graig

AETH blwyddyn ar ôl blwyddyn heibio—10 mlynedd, 20 mlynedd, 30 mlynedd, 39 mlynedd! Ac roedd yr Israeliaid yn dal yn yr anialwch. Ond drwy’r amser, roedd Jehofa yn gofalu am ei bobl. Roedd yn rhoi manna iddyn nhw i’w fwyta. Roedd yn arwain y ffordd drwy ddefnyddio colofn o niwl yn ystod y dydd a cholofn o dân yn ystod y nos. A thrwy’r holl flynyddoedd hynny, doedd eu dillad ddim yn treulio a’u traed ddim yn chwyddo.

Ym mis cyntaf y ddeugeinfed flwyddyn ar ôl iddyn nhw adael yr Aifft, dychwelodd yr Israeliaid i Cades, a chodi eu pebyll yno. O Cades, tua deugain mlynedd ynghynt, roedd Moses wedi anfon y 12 ysbïwr i wlad Canaan. Yn Cades y bu farw Miriam, chwaer Moses. Ac yn Cades, fe gododd helynt unwaith eto.

Doedd y bobl ddim yn medru dod o hyd i ddŵr a dyma nhw’n mynd i gwyno wrth Moses. ‘Fe fyddai’n well petaen ni wedi marw,’ medden nhw. ‘Pam wnest ti ddod â ni allan o’r Aifft i’r lle ofnadwy hwn? Does dim grawn yma, dim pomgranadau, na ffigys, na grawnwin. Does hyd yn oed dim dŵr i’w yfed.’

Aeth Moses ac Aaron i’r tabernacl i weddïo, ac fe ddywedodd Jehofa wrth Moses: ‘Gofynna i’r bobl ddod at ei gilydd. Yna, dyweda wrth y graig acw am roi dŵr i chi. Bydd digon o ddŵr ar gyfer pawb ac ar gyfer yr holl anifeiliaid hefyd.’

Gorchmynnodd Moses i’r bobl ymgynnull a dywedodd: ‘Gwrandewch, chi sydd heb ffydd yn Nuw! Oes rhaid i Aaron a minnau daro’r graig hon i gael dŵr ichi?’ Yna, fe drawodd Moses y graig ddwywaith â’i ffon. Llifodd y dŵr fel afon allan o’r graig. Roedd digon o ddŵr i’r holl bobl ac i’r holl anifeiliaid hefyd.

Ond roedd Jehofa yn ddig wrth Moses ac Aaron. Wyt ti’n gwybod pam? Oherwydd iddyn nhw ddweud mai nhw oedd yn mynd i gael dŵr o’r graig. Ond Jehofa oedd yr un a wnaeth i’r dŵr lifo. Cafodd Moses ac Aaron eu cosbi am beidio â dweud y gwir. ‘Fyddwch chi ddim yn cael arwain fy mhobl i mewn i wlad Canaan,’ meddai Jehofa.

Yn fuan wedyn, gadawodd yr Israeliaid Cades a chyrraedd Mynydd Hor. Yna, ar ben y mynydd, bu farw Aaron yn 123 blwydd oed. Roedd yr Israeliaid yn drist iawn, a buon nhw’n galaru dros Aaron am 30 diwrnod. Eleasar, mab Aaron, oedd yr archoffeiriad nesaf.

Numeri 20:1-13, 22-29; Deuteronomium 29:5.