STORI 44
Rahab yn Cuddio’r Ysbïwyr
MAE’R dynion hyn mewn perygl. Os nad ydyn nhw’n dianc, byddan nhw’n cael eu lladd. Ysbïwyr ydyn nhw, a Rahab yw’r wraig sydd yn eu helpu. Roedd Rahab yn byw mewn tŷ a oedd yn rhan o wal dinas Jericho. Gadewch inni weld pam roedd y dynion hyn mewn cymaint o berygl.
Roedd pobl Israel yn barod i groesi’r Iorddonen a mynd i mewn i wlad Canaan. Ond, yn gyntaf, anfonodd Josua ddau ysbïwr i gael cipolwg ar yr ardal. Dywedodd wrthyn nhw: ‘Ewch i ysbïo’r wlad a dinas Jericho yn enwedig.’
Pan gyrhaeddodd yr ysbïwyr Jericho, fe aethon nhw i dŷ Rahab. Ond dywedodd rhywun wrth frenin Jericho: ‘Mae dau o’r Israeliaid wedi dod i mewn i’r ddinas heno i ysbïo’r ardal.’ Felly, anfonodd y brenin ddynion i dŷ Rahab. ‘Tyrd â’r ysbïwyr allan o’r tŷ!’ gwaeddon nhw. Ond roedd Rahab wedi cuddio’r ysbïwyr ar y to. Dywedodd hi: ‘Do, mae dynion wedi bod yma, ond dydw i ddim yn gwybod o le roedden nhw’n dod. Aethon nhw oddi yma wrth iddi nosi, ychydig cyn i borth y ddinas gau. Os brysiwch chi, efallai y medrwch chi eu dal nhw!’ Ac felly, rhuthrodd y dynion ar eu holau.
Brysiodd Rahab i fyny i’r to a dweud wrth yr ysbïwyr: ‘Rydw i’n gwybod y bydd Jehofa yn rhoi’r wlad hon i chi. Clywon ni am Jehofa yn sychu’r Môr Coch pan oeddech chi’n ffoi o’r Aifft, ac rydyn ni’n gwybod eich bod wedi lladd y Brenin Sihon a’r Brenin Og. Ond gan fy mod i wedi bod yn garedig wrthoch chi, wnewch chi addo y byddwch chithau’n garedig wrtha’ i a pheidio â lladd fy nhad a’m mam, fy mrodyr a’m chwiorydd.’
Cytunodd yr ysbïwyr, ond roedd rhaid i Rahab wneud rhywbeth. ‘Clyma’r edau goch hon yn y ffenestr,’ meddai’r ysbïwyr, ‘a sicrha fod dy deulu i gyd yn dod i’r tŷ hwn. A phan ddown ni’n ôl i ymosod ar Jericho, byddwn ni’n gweld yr edau yn y ffenestr, a fyddwn ni ddim yn lladd neb yn dy dŷ.’ Aeth yr ysbïwyr yn ôl at Josua ac adrodd yr hanes i gyd.