Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 37

Pabell i Addoli Duw

Pabell i Addoli Duw

A WYT ti’n gwybod beth yw’r adeilad yma? Pabell arbennig yw hi ar gyfer addoli Jehofa. Enw arall arni yw’r tabernacl. Gorffennwyd y gwaith o’i hadeiladu flwyddyn ar ôl i’r Israeliaid adael yr Aifft. Syniad pwy oedd gwneud y babell hon tybed?

Syniad Jehofa oedd hyn. Pan oedd Moses ar Fynydd Sinai, rhoddodd Jehofa gyfarwyddiadau iddo ynglŷn â sut i adeiladu’r tabernacl. Roedd yn rhaid gwneud pabell a fyddai’n hawdd ei thynnu i lawr a’i chodi eto. Bob tro y byddai’r Israeliaid yn symud i rywle arall yn yr anialwch, bydden nhw’n cludo’r babell gyda nhw.

Os wyt ti’n edrych yn yr ystafell fechan ym mhen draw’r babell, fe weli di gist aur. Arch y cyfamod ydy hon. Roedd arni ddau angel neu gerwb, wedi eu gwneud o aur, un ar bob pen. Roedd Duw wedi ysgrifennu’r Deg Gorchymyn ar ddwy lech a hynny am yr eildro oherwydd bod Moses wedi malu’r lleill. Rhoddwyd y llechi newydd yn yr arch ynghyd â llestr yn llawn manna. Wyt ti’n cofio beth yw manna?

Cafodd Aaron, brawd Moses, ei ddewis gan Jehofa i fod yn archoffeiriad ac i arwain y bobl wrth iddyn nhw addoli Jehofa. Roedd meibion Aaron yn offeiriaid hefyd.

Nesaf, edrycha ar ystafell fawr y babell. Mae hon ddwywaith cymaint â’r llall. Fedri di weld y gist fach ag ychydig o fwg yn codi ohoni? Dyma’r allor, lle roedd yr offeiriaid yn llosgi arogldarth i greu mwg persawrus. Fe weli di hefyd ganhwyllbren a saith llusern arni. Y trydydd peth yn yr ystafell yw bwrdd lle byddai’r offeiriaid yn gosod deuddeg torth o fara.

Yn y cyntedd, y tu allan i’r tabernacl, roedd noe neu bowlen fawr yn llawn o ddŵr. Roedd yr offeiriaid yn defnyddio’r dŵr i ymolchi. Roedd yna hefyd allor fawr, lle roedden nhw’n llosgi anifeiliaid marw yn offrymau i Jehofa. Roedd y babell yng nghanol y gwersyll, a phebyll yr Israeliaid o’i chwmpas.

Exodus 25:8-40; 26:1-37; 27:1-8; 28:1; 30:1-10, 17-21; 34:1, 2; Hebreaid 9:1-5.