STORI 56
Saul—Brenin Cyntaf Israel
A WYT ti’n gweld Samuel yn tywallt olew ar ben y dyn? Dyna’r ffordd roedden nhw’n dangos bod rhywun wedi cael ei ddewis i fod yn frenin. Dywedodd Jehofa wrth Samuel am dywallt olew ar ben Saul. Defnyddiodd olew arbennig a oedd yn arogli’n hyfryd.
Roedd Saul yn poeni nad oedd yn ddigon da i fod yn frenin. Dywedodd wrth Samuel: ‘Pam rwyt ti’n dweud y byddaf i’n frenin? Rydw i’n dod o lwyth Benjamin, y lleiaf o lwythau Israel.’ Doedd Saul ddim yn meddwl ei fod yn ddyn pwysig ac roedd Jehofa yn hoffi hynny. Dyna pam y dewisodd Saul yn frenin.
Daeth Saul o deulu cefnog. Roedd yn dal ac yn olygus. Roedd yn dalach o ryw 30 centimetr na phawb arall yn Israel! Medrai redeg fel y gwynt ac roedd yn gryf ofnadwy. Roedd y bobl yn hapus fod Jehofa wedi dewis Saul yn frenin a dyma nhw’n gweiddi: ‘Hir oes i’r brenin!’
Daeth gelynion Israel yn gryfach nag erioed. Roedden nhw’n dal i ymosod ar bobl Israel. Yn fuan ar ôl i Saul ddod yn frenin, ymosododd pobl Ammon ar Israel. Ond casglodd Saul fyddin fawr ynghyd, ac fe drechodd yr Ammoniaid. Roedd y bobl yn falch iawn o’u brenin newydd.
Gyda Saul yn arweinydd, roedd yr Israeliaid yn fuddugol yn erbyn eu gelynion. Roedd gan Saul fab dewr o’r enw Jonathan. Fe wnaeth Jonathan helpu’r Israeliaid i ennill llawer o frwydrau. Gelyn pennaf yr Israeliaid oedd y Philistiaid. Un diwrnod, daeth miloedd ar filoedd o Philistiaid i ymosod ar yr Israeliaid.
Dywedodd Samuel wrth Saul am aros nes iddo gyrraedd a rhoi offrwm i Jehofa. Ond aeth y dyddiau heibio a doedd dim golwg o Samuel. Roedd Saul yn dechrau poeni y byddai’r Philistiaid yn ymosod. Felly, penderfynodd fwrw ymlaen a gwneud yr offrwm ei hun. O’r diwedd, cyrhaeddodd Samuel, a cheryddu Saul am fod yn anufudd. ‘Bydd Jehofa yn dewis rhywun arall i fod yn frenin ar Israel,’ meddai Samuel.
Yn nes ymlaen, roedd Saul yn anufudd eto. Felly dywedodd Samuel wrtho: ‘Mae ufuddhau i Jehofa yn fwy pwysig na rhoi hyd yn oed dy ddefaid gorau iddo. Oherwydd iti beidio ag ufuddhau i Jehofa, fyddi di ddim yn cael aros yn frenin ar Israel.’
Mae yna wers i ni yn yr hanes hwn. Mae’n dangos pa mor bwysig yw ufuddhau i Jehofa bob amser. Hefyd, mae’n dangos bod pobl a oedd unwaith yn dda fel Saul, yn gallu newid a throi’n ddrwg. Dydyn ni byth eisiau troi’n ddrwg, nac ydyn?