Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 61

Dafydd yn Frenin

Dafydd yn Frenin

UNWAITH eto, roedd Saul yn ceisio dal Dafydd. Gyda 3,000 o’i filwyr gorau, aeth i chwilio amdano. Pan glywodd Dafydd am hyn, anfonodd ysbïwyr i weld ble roedd Saul a’i filwyr yn gwersylla am y nos. Yna, gofynnodd Dafydd i ddau o’i ddynion: ‘Pwy sydd am ddod gyda mi i mewn i wersyll Saul?’

‘Dof i,’ atebodd Abisai. Roedd Abisai’n fab i Serfia, chwaer Dafydd. Ar ôl iddi nosi, dyma Dafydd ac Abisai’n llithro’n dawel i ganol y gwersyll. Roedd Saul a’i filwyr yn cysgu’n sownd. Yn dawel bach, codon nhw waywffon Saul a’r botel ddŵr oedd yn gorwedd wrth ei ben a sleifio allan. Doedd neb yn eu gweld na’u clywed.

Brysiodd Dafydd ac Abisai allan o’r gwersyll a dringo i ben bryn gerllaw. Pan oedden nhw’n ddigon pell i fwrdd, dyma Dafydd yn gweiddi ar gadfridog byddin Israel: ‘Abner, pam dwyt ti ddim yn gwarchod dy feistr, y brenin? Dos i edrych ble mae ei waywffon a’i botel ddŵr!’

Dyma Saul yn deffro’n sydyn. Wyt ti’n gweld Saul ac Abner i lawr yn y dyffryn? Roedd Saul yn adnabod llais Dafydd a gofynnodd: ‘Ai ti sydd yna, Dafydd?’

‘Ie, fy meistr y brenin,’ atebodd Dafydd. ‘Fi sydd yma. Pam rwyt ti’n dod ar fy ôl? Pa ddrwg rydw i wedi ei wneud? Dyma dy waywffon O frenin. Gad i un o’r dynion ddod i’w nôl hi.’

‘Rydw i ar fai,’ cyfaddefodd Saul. ‘Rydw i wedi bod yn wirion.’ Yna aeth Dafydd i ffwrdd ac aeth Saul adref. Ond meddyliodd Dafydd: ‘Mae Saul yn mynd i’m lladd i ryw ddiwrnod. Byddai’n well imi ddianc i wlad y Philistiaid.’ A dyna a wnaeth, gan dwyllo’r Philistiaid i feddwl ei fod bellach ar eu hochr nhw.

Yn nes ymlaen, ymosododd y Philistiaid ar Israel. Cafodd Saul a Jonathan eu lladd yn y frwydr. Pan glywodd Dafydd y newyddion, torrodd ei galon. Cyfansoddodd gân hyfryd gyda’r geiriau: ‘Rydw i’n galaru amdanat ti, Jonathan fy mrawd. Mor annwyl oeddet ti imi!’

Ar ôl hynny, aeth Dafydd yn ôl i ddinas Hebron. Roedd llawer o ddynion Israel eisiau i Dafydd fod yn frenin, ond roedd eraill eisiau Isboseth, mab Saul. Bu rhyfel wedyn rhwng y ddwy ochr, ond yn y diwedd roedd dynion Dafydd yn fuddugol. Yn 30 mlwydd oed, cafodd Dafydd ei gyhoeddi’n frenin. Am saith mlynedd a hanner roedd Dafydd yn teyrnasu yn Hebron. Cafodd nifer o feibion yno, gan gynnwys Amnon, Absalom, ac Adoneia.

Ymhen amser, aeth Dafydd a’i ddynion i gipio dinas hardd o’r enw Jerwsalem. Ar flaen y gad oedd Joab, un arall o feibion Serfia, chwaer Dafydd. Yn wobr am ei ddewrder, cafodd ei benodi’n bennaeth y fyddin. O hynny ymlaen, Jerwsalem oedd prifddinas Dafydd.