Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 69

Helpu Dyn Pwysig

Helpu Dyn Pwysig

A WYT ti’n gwybod beth mae’r ferch yn y llun yn ei ddweud wrth y ddynes? Mae hi’n sôn am y proffwyd Eliseus, ac am y gwyrthiau y mae Eliseus wedi eu gwneud yn nerth Jehofa. Nid oedd y ddynes wedi clywed am Jehofa o’r blaen, oherwydd nid oedd hi’n dod o wlad Israel. Pam felly roedd y ferch yn gweithio yn nhŷ’r ddynes?

Un o wlad Syria oedd y ddynes. Ei gŵr, Naaman, oedd pennaeth byddin Syria. Roedd y Syriaid wedi cipio’r ferch o wlad Israel, ac fe ddaeth hi’n forwyn i wraig Naaman.

Roedd Naaman yn dioddef o’r gwahanglwyf, sydd yn glefyd croen ofnadwy. Weithiau, mae’r clefyd hwn yn achosi i ddarnau o’r croen ddisgyn o’r corff. Dywedodd y ferch wrth wraig Naaman: ‘Dyna biti na fyddai fy meistr yn gallu mynd i weld proffwyd Jehofa yn Israel. Byddai ef yn gallu ei wella o’i wahanglwyf.’ Yn nes ymlaen, clywodd Naaman am hynny.

Roedd Naaman yn awyddus iawn i fod yn iach, felly cychwynnodd ar ei daith. Pan gyrhaeddodd wlad Israel, aeth i dŷ Eliseus. Anfonodd Eliseus ei was at Naaman gyda’r neges: ‘Dos i ymolchi saith gwaith yn yr Iorddonen.’ Pan glywodd Naaman hyn, gwylltiodd a dweud: ‘Mae afonydd Syria yn well o lawer na holl afonydd Israel!’ Ac i ffwrdd ag ef!

Ond dywedodd ei weision wrtho: ‘Syr, petai Eliseus wedi gofyn i ti wneud rhywbeth anodd, oni fyddet ti’n ei wneud? Felly, pam na wnei di ymolchi, fel y gofynnodd?’ Gwrandawodd Naaman ar ei weision, ac aeth i ymdrochi saith gwaith yn yr Iorddonen. Ar ôl iddo wneud hynny, gwelodd fod ei groen yn lân ac yn iach!

Roedd Naaman yn hapus iawn. Aeth yn ôl at Eliseus a dweud: ‘Dyma fi’n gwybod nawr mai Duw Israel yw’r unig wir Dduw. Felly, a wnei di dderbyn yr anrheg hon gen i?’ Ond atebodd Eliseus: ‘Na wnaf, wna’ i ddim ei derbyn.’ Roedd Eliseus yn gwybod na fyddai’n iawn iddo gymryd yr anrheg, oherwydd Jehofa oedd wedi gwella Naaman. Ond roedd gwas Eliseus, Gehasi, eisiau’r anrheg iddo ef ei hun.

Ar ôl i Naaman ymadael, brysiodd Gehasi ar ei ôl. ‘Mae Eliseus wedi f’anfon i,’ meddai Gehasi. ‘Mae ffrindiau newydd gyrraedd a byddai Eliseus yn falch o gael rhai o’r anrhegion i’w rhoi iddyn nhw.’ Wrth gwrs, celwydd oedd hyn. Ond nid oedd Naaman yn gwybod hynny, ac fe roddodd rai o’r anrhegion i Gehasi.

Pan gyrhaeddodd Gehasi ei gartref, roedd Eliseus yn gwybod yn union beth oedd wedi digwydd. Roedd Jehofa wedi dweud wrtho. Dywedodd Eliseus wrth Gehasi: ‘Oherwydd dy ddrygioni, bydd gwahanglwyf Naaman yn dod arnat ti.’ Ac yn y fan a’r lle, dyna beth ddigwyddodd!

Beth gallwn ni ei ddysgu o’r hanes hwn? Yn gyntaf, dylen ni ddilyn esiampl y ferch a helpu pobl drwy ddweud wrthyn nhw am Jehofa. Yn ail, ddylen ni ddim fod yn falch fel roedd Naaman ar y dechrau. Yn hytrach, dylen ni fod yn ufudd i weision Duw. Yn drydydd, ddylen ni ddim dweud celwydd fel y gwnaeth Gehasi. Mae yna gymaint o bethau da i’w dysgu yn y Beibl, on’d oes?

2 Brenhinoedd 5:1-27.