Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 71

Duw yn Addo Paradwys

Duw yn Addo Paradwys

DYMA lun o baradwys. Dangosodd Jehofa baradwys debyg i hon i’r proffwyd Eseia. Roedd Eseia yn byw ychydig o flynyddoedd ar ôl Jona.

Ystyr paradwys yw parc neu ardd. Ydy hynny’n dy atgoffa di o lun arall yn y llyfr hwn? Mae’n debyg i’r ardd hyfryd a wnaeth Duw ar gyfer Adda ac Efa. Ond, a fydd y ddaear i gyd yn baradwys ryw ddydd?

Gofynnodd Jehofa i Eseia ysgrifennu am y baradwys sydd i ddod. Dywedodd: ‘Bydd y blaidd a’r oen yn byw mewn heddwch. Bydd lloi a llewod ifanc yn pori gyda’i gilydd, a bydd plant yn gofalu amdanyn nhw. Os bydd babi yn chwarae yn ymyl neidr wenwynig, fe fydd yn ddiogel.’

Ond bydd rhai yn dweud: ‘Wneith hynny byth ddigwydd. Rydyn ni wedi gweld helynt ers blynyddoedd ac ni fydd dim byd yn newid!’ Ond meddylia: Pa fath o gartref roddodd Duw i Adda ac Efa?

Rhoddodd Duw baradwys yn gartref i Adda ac Efa. Ond, oherwydd nad oedden nhw’n ufudd i Dduw, collon nhw’r baradwys. Dechreuon nhw heneiddio, ac yn y pen draw buon nhw farw. Mae Duw yn addo rhoi popeth a gollodd Adda ac Efa yn ôl i’r rhai sydd yn ei garu.

Yn y baradwys, ni fydd dim byd yn achosi poen nac yn difetha pethau. Bydd heddwch trwy’r byd a bydd pawb yn iach ac yn hapus. Bydd popeth yn union fel roedd Duw wedi bwriadu yn y dechrau. Yn nes ymlaen byddwn ni’n dysgu sut bydd Duw yn troi’r ddaear yn baradwys.

Eseia 11:6-9; Datguddiad 21:3, 4.