RHAN 5
O’r Gaethglud ym Mabilon hyd at Ailadeiladu Muriau Jerwsalem
Ym Mabilon, digwyddodd llawer o bethau a oedd yn rhoi prawf ar ffydd yr Israeliaid. Cafodd Sadrach, Mesach, ac Abednego eu taflu i ganol ffwrnais danllyd, ond achubodd Duw eu bywydau. Ar ôl i Fabilon gael ei gorchfygu gan y Mediaid a’r Persiaid, cafodd Daniel ei fwrw i ffau’r llewod, ond rhwystrodd Duw y llewod rhag ei fwyta.
Yn y diwedd, ar orchymyn Cyrus, brenin Persia, cafodd yr Israeliaid eu rhyddhau. Saith deg mlynedd ar ôl iddyn nhw gael eu cludo’n gaethweision i Fabilon, aethon nhw yn ôl i’w mamwlad. Un o’r pethau cyntaf a wnaethon nhw ar ôl dychwelyd i Jerwsalem oedd dechrau ailadeiladu teml Jehofa. Ond yn fuan iawn, fe wnaeth gelynion lwyddo i rwystro’r gwaith. Felly, cymerodd 22 o flynyddoedd i orffen ailadeiladu’r deml.
Tua 47 o flynyddoedd ar ôl i’r deml gael ei hailadeiladu, teithiodd Esra i Jerwsalem i wneud gwaith pellach arni. Ryw 13 o flynyddoedd ar ôl hynny, trefnodd Nehemeia i ailadeiladu muriau Jerwsalem. Mae RHAN 5 yn adrodd hanes 152 o flynyddoedd.
YN Y RHAN HON
STORI 79
Daniel yn Ffau’r Llewod
Cafodd Daniel cosb o farwolaeth, a oedd modd iddo’i osgoi yn y lle cyntaf?
STORI 80
Pobl Duw yn Gadael Babilon
Cyflawnwyd un broffwydoliaeth wrth i Frenin Cyrus o Bersia cipio Babilon, nawr mae’r Brenin yn cyflawni un arall.
STORI 81
Ymddiried yn Nuw
Er mwyn addoli Duw, mae’r Israeliaid yn torri cyfraith dynion. A fydd Duw yn eu bendithio?
STORI 82
Mordecai ac Esther
Roedd y Frenhines Fasti yn brydferth iawn, ond er hyn fe roddwyd Esther yn Frenhines yn ei lle. Pam?
STORI 83
Muriau Jerwsalem
Wrth ailadeiladu’r mur, rhaid i’r gweithwyr cadw eu cleddyfau a gwaywffyn yn agos trwy’r dydd a’r nos.