Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 81

Ymddiried yn Nuw

Ymddiried yn Nuw

MILOEDD o bobl a wnaeth y daith hir o Fabilon i Jerwsalem. Ond pan gyrhaeddon nhw, roedd y ddinas yn adfeilion. Doedd neb yn byw yno. Roedd yn rhaid i’r Israeliaid adeiladu popeth o’r newydd.

Un o’r pethau cyntaf iddyn nhw ei godi oedd allor, er mwyn offrymu anifeiliaid yn rhoddion i Jehofa. Ychydig o fisoedd wedyn, dechreuodd yr Israeliaid ar y gwaith o ailadeiladu’r deml. Ond nid oedd eu gelynion yn y gwledydd o’u cwmpas eisiau i hynny ddigwydd. Ceision nhw godi ofn ar y bobl er mwyn atal y gwaith. Yn y diwedd, pwysodd y gelynion ar frenin newydd Persia, nes iddo orchymyn i’r gwaith adeiladu ddod i ben.

Aeth 17 o flynyddoedd heibio. Yna, anfonodd Jehofa y proffwydi Haggai a Sechareia i annog yr Israeliaid i ddechrau gweithio eto. Gwrandawodd y bobl ar y proffwydi. Gan ymddiried yn Jehofa, dechreuon nhw adeiladu eto, er gwaethaf gorchymyn y brenin.

Ar hynny, daeth Tatnai, un o swyddogion brenin Persia, i ofyn pa hawl oedd gan yr Israeliaid i adeiladu’r deml. Dywedodd yr Israeliaid fod y Brenin Cyrus wedi dweud wrthyn nhw: ‘Ewch yn ôl i Jerwsalem i adeiladu teml Jehofa, eich Duw.’

Erbyn hyn, roedd Cyrus wedi marw, ond anfonodd Tatnai lythyr yn ôl i Fabilon i holi am y gorchymyn. Cyn bo hir, daeth ateb oddi wrth frenin Persia, yn cadarnhau bod Cyrus wedi gwneud y fath orchymyn. Ysgrifennodd y brenin: ‘Gadewch i’r Israeliaid adeiladu teml i’w Duw. Rydw i’n gorchymyn i chi eu helpu nhw.’ Ymhen tua phedair blynedd roedd y deml wedi ei chwblhau, ac roedd yr Israeliaid yn hapus dros ben.

Ond, sut olwg oedd ar Jerwsalem 48 o flynyddoedd yn ddiweddarach? Roedd y bobl yn Jerwsalem yn dlawd, ac roedd golwg gwael iawn ar y ddinas ac ar deml Dduw. Yn ôl ym Mabilon, clywodd dyn o’r enw Esra am gyflwr drwg y deml. Felly, wyt ti’n gwybod beth a wnaeth Esra?

Aeth Esra i weld Artaxerxes, brenin Persia, a chan ei fod yn frenin da, fe roddodd lawer o bethau gwerthfawr i Esra tuag at y gwaith yn Jerwsalem. Gofynnodd Esra i’r Israeliaid ym Mabilon am help i gludo popeth i Jerwsalem. Cytunodd tua 6,000 o bobl i fynd. Roedd ganddyn nhw aur ac arian a phob math o bethau gwerthfawr i’w cario.

Roedd Esra yn poeni am gyfarfod dynion drwg ar y ffordd. Efallai bydden nhw’n edrych am gyfle i ladd y bobl a dwyn yr aur a’r arian. Felly, casglodd Esra bawb at ei gilydd, fel y gweli di yn y llun. Fe wnaethon nhw weddïo ar Jehofa i ofalu amdanyn nhw ar y daith hir yn ôl i Jerwsalem.

Gwrandawodd Jehofa ar eu gweddi. Ar ôl pedwar mis o deithio, cyrhaeddon nhw Jerwsalem yn ddiogel. Mae hyn yn dangos bod Jehofa yn gofalu am y rhai sy’n ymddiried ynddo.

Esra penodau 2 i 8.