Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 77

Gwrthod Addoli Delw

Gwrthod Addoli Delw

A WYT ti’n cofio’r tri dyn yn y llun? Dyma ffrindiau Daniel a wrthododd fwyta bwyd moethus y brenin ym Mabilon. Roedd y Babiloniaid yn eu galw nhw’n Sadrach, Mesach, ac Abednego. Edrycha ar beth sy’n digwydd. Pam nad ydyn nhw’n ymgrymu o flaen y ddelw fawr fel y mae pawb arall yn ei wneud? Gad inni weld.

Wyt ti’n cofio’r Deg Gorchymyn a roddodd Jehofa i’w bobl? Yr un cyntaf oedd: ‘Rhaid ichi beidio ag addoli neb ond fi.’ Roedd y tri dyn ifanc yn cadw’r gorchymyn hwnnw, er nad oedd hynny’n beth hawdd i’w wneud.

Roedd Nebuchadnesar, brenin Babilon, wedi casglu llawer o bobl bwysig at ei gilydd ar gyfer seremoni i gysegru’r ddelw. Dywedodd wrth y bobl: ‘Pan glywch sŵn y corn, y delyn, a phob offeryn arall, dylech chi blygu i lawr ac addoli’r ddelw aur. Bydd pwy bynnag sy’n gwrthod ymgrymu o flaen y ddelw yn cael ei daflu ar unwaith i mewn i ffwrnais danllyd.’

Pan glywodd Nebuchadnesar fod Sadrach, Mesach, ac Abednego wedi gwrthod addoli’r ddelw, fe wylltiodd yn lân. Anfonodd amdanyn nhw, a rhoddodd gyfle arall iddyn nhw. Ond roedden nhw’n ymddiried yn Jehofa. Dywedon nhw wrth Nebuchadnesar: ‘Mae’r Duw rydyn ni’n ei addoli yn gallu ein hachub ni. Ond, hyd yn oed os nad yw’n gwneud hynny, wnawn ni ddim addoli’r ddelw aur.’

Roedd Nebuchadnesar yn gandryll. Roedd ffwrnais gerllaw, a gorchmynnodd y brenin: ‘Poethwch y ffwrnais saith gwaith poethach nag arfer!’ Dywedodd wrth ddynion cryfion o’r fyddin am rwymo Sadrach, Mesach, ac Abednego a’u taflu i mewn i’r ffwrnais. Erbyn hyn roedd y ffwrnais mor boeth nes i’r fflamau ladd y dynion cryfion. Ond, beth ddigwyddodd i’r tri dyn ifanc a gafodd eu taflu i mewn?

Pan edrychodd y brenin i ganol y ffwrnais, cafodd fraw ofnadwy. Gofynnodd i’w weision: ‘Onid tri dyn wnaethon ni eu rhwymo a’u taflu i’r ffwrnais?’

‘Ie, yn sicr,’ atebon nhw.

‘Rydw i’n gweld pedwar dyn yn cerdded yn rhydd yng nghanol y tân,’ meddai. ‘Ond dydy’r tân ddim yn cyffwrdd â nhw. Ac mae’r pedwerydd yn edrych fel angel.’ Aeth y brenin yn nes at ddrws y ffwrnais a gweiddi: ‘Sadrach, Mesach, ac Abednego, gweision y Duw Goruchaf! Dewch allan!’

Pan ddaeth y tri allan o’r ffwrnais, roedd pawb yn gallu gweld nad oedd y tân wedi eu llosgi o gwbl. Dywedodd y brenin: ‘Mae Duw Sadrach, Mesach, ac Abednego yn haeddu ei foli! Anfonodd ei angel i achub ei weision oherwydd iddyn nhw wrthod addoli unrhyw dduw ond eu Duw eu hunain.’

Wyt ti’n meddwl bod eu ffyddlondeb i Jehofa yn esiampl dda i ni?

Exodus 20:3; Daniel 3:1-30.