Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 78

Yr Ysgrifen ar y Wal

Yr Ysgrifen ar y Wal

BETH sy’n digwydd yma? Wel, roedd brenin Babilon wedi gwahodd mil o bobl bwysig i wledd fawr. Roedden nhw’n defnyddio’r llestri aur ac arian a oedd wedi eu dwyn o deml Jehofa yn Jerwsalem. Ond yn sydyn, dyma fysedd yn ymddangos a dechrau ysgrifennu ar wal y palas. Cafodd pawb fraw ofnadwy.

Y brenin erbyn hyn oedd ŵyr Nebuchadnesar, Belsassar. Gwaeddodd y brenin am ei ddynion doeth. Cyhoeddodd: ‘Os bydd rhywun yn gallu darllen yr ysgrifen a dweud beth mae yn ei olygu, fe gaiff ei wobrwyo’n hael. Caiff hefyd lywodraethu’n drydydd yn y deyrnas.’ Ond nid oedd yr un o’r dynion doeth yn gallu darllen y geiriau ar y wal nac egluro eu hystyr.

Pan glywodd mam y brenin yr holl stŵr, fe ddaeth i’r neuadd fwyta. ‘Paid â chynhyrfu,’ meddai hi wrth y brenin. ‘Y mae dyn yn dy deyrnas sy’n adnabod y duwiau sanctaidd. Cafodd ei benodi yn bennaeth ar y dynion doeth yn amser Nebuchadnesar, dy daid. Ei enw yw Daniel. Anfon amdano, a bydd ef yn gallu egluro ystyr y cyfan.’

Anfonodd y brenin am Daniel ar unwaith. Pan gyrhaeddodd, dywedodd Daniel: ‘Cewch gadw bob un o’ch anrhegion.’ Yna, fe atgoffodd y brenin o’r ffordd yr oedd Jehofa wedi darostwng ei daid. ‘Roedd Nebuchadnesar yn ddyn balch iawn,’ meddai Daniel. ‘Cafodd ei gosbi gan Jehofa a chollodd ei orsedd am gyfnod.’

‘Rydych chi’n gwybod hyn i gyd,’ meddai Daniel wrth Belsassar, ‘ond eto, rydych chi yr un mor falch â’ch taid. Rydych chi wedi dod â’r llestri o deml Jehofa a’u defnyddio yn eich gwledd. Yn lle moliannu’r Duw â’n creodd ni i gyd, rydych chi wedi moliannu duwiau o bren a charreg. Dyna pam mae Duw wedi anfon y llaw i ysgrifennu’r geiriau ar y wal.’

‘Y geiriau ar y wal,’ meddai Daniel, ‘yw MENE, MENE, TECEL, ac WPARSIN.’

‘Ystyr MENE yw: Mae Duw wedi rhifo dyddiau eich teyrnasiad ac wedi dod ag ef i ben. Ystyr TECEL yw: Rydych wedi cael eich pwyso yn y glorian a’ch cael yn brin. Ystyr WPARSIN yw: Caiff eich teyrnas ei rhoi i’r Mediaid a’r Persiaid.’

Tra oedd Daniel yn dal i siarad, roedd y Mediaid a’r Persiaid eisoes yn ymosod ar Fabilon. O fewn oriau, roedden nhw wedi cipio’r ddinas a lladd Belsassar. Y noson honno, daeth neges yr ysgrifen ar y wal yn wir! Ond beth fyddai’n digwydd i’r Israeliaid? Cawn wybod yn y man. Ond yn gyntaf, gad inni weld beth ddigwyddodd i Daniel.

Daniel 5:1-31.