Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

RHAN 6

O Enedigaeth Iesu hyd at ei Farwolaeth

O Enedigaeth Iesu hyd at ei Farwolaeth

Cafodd yr angel Gabriel ei anfon at ferch annwyl o’r enw Mair. Dywedodd wrthi y byddai hi’n cael plentyn a fyddai’n frenin am byth. Cafodd y plentyn, Iesu, ei eni mewn stabl, a daeth bugeiliaid i ymweld ag ef. Yn nes ymlaen, cyrhaeddodd dynion o’r Dwyrain. Roedd seren wedi eu harwain at y plentyn. Cawn wybod pwy achosodd iddyn nhw weld y seren, a sut cafodd Iesu ei achub.

Byddwn yn darllen am Iesu yn siarad ag athrawon yn y deml pan oedd yn 12 mlwydd oed. Ddeunaw mlynedd yn ddiweddarach, cafodd Iesu ei fedyddio. Dechreuodd ar y gwaith o bregethu am y Deyrnas a dysgu pobl am ewyllys Duw. I helpu gyda’r gwaith, dewisodd Iesu 12 dyn i fod yn apostolion iddo.

Fe wnaeth Iesu lawer o wyrthiau. Gyda dim ond nifer bach o bysgod ac ychydig o fara, bwydodd filoedd o bobl. Fe iachaodd bobl sâl a daeth â’r meirw yn ôl yn fyw. Byddwn yn dysgu am beth ddigwyddodd i Iesu ar ddiwrnod olaf ei fywyd, ac am y ffordd iddo gael ei ladd. Roedd Iesu yn pregethu am ryw dair blynedd a hanner, felly mae RHAN 6 yn adrodd hanes cyfnod o ychydig dros 34 o flynyddoedd.

 

YN Y RHAN HON

STORI 84

Angel yn Dod at Mair

Y mae’n dod â neges at Mair oddi wrth Dduw: Mae hi’n mynd i gael baban a fyddai’n frenin am byth.

STORI 85

Genedigaeth Iesu

Pam buasai brenin yn cael ei eni lle mae anifeiliaid yn cael eu bwydo?

STORI 86

Dilyn Seren

Pwy a arweiniodd y dynion o’r dwyrain at Iesu? Efallai bydd yr ateb yn eich synnu.

STORI 87

Iesu Ifanc yn y Deml

Mae rhywbeth am y bachgen ifanc sy’n synnu henuriaid y deml.

STORI 88

Ioan yn Bedyddio Iesu

Mae Ioan Fedyddiwr wedi bod yn bedyddio pechaduriaid. Gan nad yw Iesu yn bechadur, pam mae Ioan yn bedyddio Iesu?

STORI 89

Glanhau’r Deml

Gan fod Iesu yn caru Duw mae’n ddig o’r hyn sy’n digwydd yn y deml.

STORI 90

Y Wraig Wrth y Ffynnon

Sut gallai’r dŵr y mae Iesu’n cynnig stopio’r wraig rhag sychedu byth eto?

STORI 91

Y Bregeth ar y Mynydd

Dysgwch am ddoethineb bythgofiadwy Iesu o’i Bregeth ar y Mynydd.

STORI 92

Iesu yn Atgyfodi’r Meirw

Gan ddefnyddio pŵer Duw, dywedodd Iesu dau air syml ac atgyfododd merch Jairus.

STORI 93

Iesu yn Bwydo’r Bobl

Wrth fwydo miloedd, pa bwynt bwysig profodd Iesu?

STORI 94

Mae Iesu yn Caru Plant

Mae Iesu’n dysgu ei apostolion i fod yn garedig i blant, a hefyd bod gan blant bach lawer o rinweddau gwerthfawr.

STORI 95

Iesu yn Adrodd Stori

Mae dameg Iesu am y Samariad da yn enghraifft o’r modd o ddysgu roedd Iesu’n defnyddio’n aml iawn.

STORI 96

Iesu yn Gwella Pobl

Beth mae Iesu yn llwyddo i wneud trwy ei wyrthiau lawer?

STORI 97

Gorymdaith Frenhinol

Mae dyrfaoedd fawr yn ei groesawu, ond nid yw pawb yn hapus.

STORI 98

Ar Fynydd yr Olewydd

Iesu yn siarad gyda phedwar o’i apostolion am bethau sy’n digwydd yn ein hoes ni.

STORI 99

Mewn Ystafell ar y Llawr Uchaf

Pam mae Iesu’n gorchymyn i’w disgyblion cynnal y swper arbennig yma pob flwyddyn?

STORI 100

Yng Ngardd Gethsemane

Pam bradychodd Jwdas Iesu gyda chusan?

STORI 101

Iesu yn Cael ei Ladd

Pan fu farw ar y stanc, addawodd Iesu am y baradwys.