Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 93

Iesu yn Bwydo’r Bobl

Iesu yn Bwydo’r Bobl

MAE rhywbeth ofnadwy wedi digwydd! Roedd Herodias, gwraig y brenin, yn casáu Ioan Fedyddiwr. Fe wnaeth hi ddylanwadu ar y brenin i dorri pen Ioan.

Pan glywodd Iesu’r newyddion, roedd yn drist iawn. Aeth i ffwrdd i le tawel ar ei ben ei hun. Ond aeth y bobl ar ei ôl. Pan welodd Iesu’r tyrfaoedd yn dod, roedd yn teimlo trueni drostyn nhw. Felly, dechreuodd ddysgu’r bobl am Deyrnas Dduw ac fe iachaodd y rhai oedd yn sâl.

Wrth iddi ddechrau nosi, daeth y disgyblion ato a dweud: ‘Mae’n mynd yn hwyr ac mae’n bell i’r pentrefi. Anfon y dyrfa i ffwrdd iddyn nhw gael prynu bwyd.’

‘Does dim rhaid iddyn nhw fynd i ffwrdd,’ atebodd Iesu. ‘Rhowch chi rywbeth i fwyta iddyn nhw.’ Trodd Iesu at Philip a gofyn: ‘Ble gallwn ni brynu digon o fwyd i’r bobl hyn i gyd?’

‘Byddai’n costio ffortiwn i brynu digon o fwyd i roi hyd yn oed tamaid bach i bawb,’ atebodd Philip. Yna dywedodd Andreas: ‘Mae gan y bachgen yma bum torth a dau bysgodyn. Ond fydd hynny ddim yn ddigon i fwydo cymaint o bobl!’

‘Dywedwch wrth y bobl am eistedd ar y glaswellt,’ meddai Iesu. Yna, ar ôl iddo ddiolch i Dduw, cymerodd y bara a’r pysgod a’u torri’n ddarnau. Rhoddodd y bwyd i’w ddisgyblion i’w rhannu rhwng y bobl. Roedd tua 5,000 o ddynion ynghyd â miloedd o wragedd a phlant yno. Cafodd pawb lond eu boliau. Pan aeth y disgyblion ati i gasglu’r bwyd a oedd ar ôl, fe wnaethon nhw lenwi 12 basged!

Ar ôl hynny, dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion am fynd i’r cwch a chroesi Môr Galilea. Yn ystod y nos, cododd storm fawr nes bod y cwch yn cael ei daflu yma a thraw ar y tonnau. Roedd ofn mawr ar y disgyblion. Yna, yng nghanol y nos, dyma nhw’n gweld rhywun yn cerdded tuag atyn nhw ar y dŵr. Roedden nhw wedi dychryn, heb wybod beth yn union roedden nhw’n ei weld.

‘Peidiwch ag ofni,’ meddai Iesu. ‘Fi sydd yma!’ Ond doedden nhw ddim yn credu’r peth. Felly dywedodd Pedr: ‘Os ti sydd yna Arglwydd, dywed wrtha’ i am ddod atat ti ar y dŵr.’ Atebodd Iesu: ‘Tyrd!’ Dringodd Pedr dros ochr y cwch a dechrau cerdded ar y dŵr. Ond yna cododd ofn arno, a dechreuodd suddo. Ar unwaith estynnodd Iesu ei law a’i achub.

Yn ddiweddarach, fe wnaeth Iesu fwydo tyrfa fawr arall. Y tro hwnnw, bwydodd miloedd o bobl gyda dim ond saith torth ac ychydig o bysgod bach. Ond eto, roedd mwy na digon i bawb. Mae’n rhyfeddol sut mae Iesu yn gofalu am bobl on’d ydy? Pan fydd Iesu’n teyrnasu, ni fydd rhaid inni boeni am ddim byd!