Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 95

Iesu yn Adrodd Stori

Iesu yn Adrodd Stori

UN DIWRNOD, gofynnodd dyn gwestiwn i Iesu. Roedd Iesu wedi dweud y dylai pobl garu eu cymdogion. ‘Ond pwy yw fy nghymydog?’ holodd y dyn. Roedd Iesu yn gwybod beth oedd ym meddwl y dyn. Roedd y dyn yn credu mai dim ond pobl o’i genedl a’i grefydd ei hun oedd yn gymdogion iddo. Felly, gad inni weld beth ddywedodd Iesu wrtho.

Weithiau byddai Iesu’n dysgu gwers drwy adrodd stori. Felly, i ateb cwestiwn y dyn, dywedodd Iesu stori am Iddew a dyn o Samaria. Rydyn ni eisoes wedi dysgu nad oedd y rhan fwyaf o’r Iddewon yn hoff iawn o’r Samariaid. Wel, dyma stori Iesu.

Un tro, roedd Iddew yn cerdded ar hyd y ffordd gul a serth i lawr i Jericho. Yn sydyn, dyma ladron yn ymosod arno. Fe wnaethon nhw guro’r dyn, dwyn ei arian, a’i adael yn hanner marw ar ochr y ffordd.

Yn fuan wedyn, daeth offeiriad Iddewig heibio a gweld y dyn yn gorwedd ar y llawr yn gleisiau i gyd. Wyt ti’n gwybod beth a wnaeth? Fe groesodd i ochr arall y ffordd ac i ffwrdd ag ef. Ymhen ychydig, daeth dyn crefyddol arall heibio. Lefiad oedd hwnnw. A wnaeth hwnnw stopio? Naddo. Croesodd yntau’r ffordd hefyd a mynd yn ei flaen. Wyt ti’n gweld yr offeiriad a’r Lefiad yn diflannu yn y pellter?

Ond, edrycha pwy sydd wedi stopio i helpu’r Iddew. Samariad yw’r dyn caredig! Golchodd friwiau’r dyn yn ofalus, a’u rhwymo. Yna, fe aeth ag ef i lety iddo gael gorffwys a gwella.

Ar ddiwedd y stori, trodd Iesu at yr un a oedd wedi gofyn y cwestiwn, a dweud: ‘Pa un o’r tri fu’n gymydog i’r dyn a gafodd ei anafu? Ai’r offeiriad, y Lefiad, ynteu’r Samariad?’

‘Y Samariad,’ atebodd y dyn. ‘Roedd hwnnw’n garedig iddo.’

‘Rwyt ti’n iawn,’ meddai Iesu. ‘Felly, dos a gwna di’r un peth.’

Wyt ti’n hoffi’r ffordd roedd Iesu yn dysgu? Gallwn ni ddysgu llawer o bethau pwysig drwy wrando ar beth mae Iesu yn ei ddweud yn y Beibl.