Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 101

Iesu yn Cael ei Ladd

Iesu yn Cael ei Ladd

EDRYCHA ar beth sy’n digwydd i Iesu. Y mae’n cael ei ladd! Y mae wedi ei osod ar stanc gyda hoelion trwy ei ddwylo a’i draed. Pwy fyddai’n gwneud y fath beth i Iesu?

Roedd gan Iesu elynion cas. Wyt ti’n gwybod pwy oedden nhw? Yr angel drwg Satan y Diafol oedd un ohonyn nhw. Ef oedd yr un a berswadiodd Adda ac Efa i fod yn anufudd i Jehofa. Satan hefyd a wnaeth i elynion Iesu ei drin mor ofnadwy.

Hyd yn oed cyn i Iesu gael ei hoelio i’r stanc, roedd gelynion Iesu wedi ei drin yn gas ac yn greulon. Wyt ti’n cofio’r dynion a ddaeth i ardd Gethsemane a mynd â Iesu i ffwrdd? Yr arweinwyr crefyddol oedd y dynion drwg hynny. Gad inni weld beth ddigwyddodd nesaf.

Pan gafodd Iesu ei arestio gan yr arweinwyr crefyddol, cododd ofn ar yr apostolion. Rhedon nhw i ffwrdd gan adael Iesu ar ei ben ei hun i wynebu ei elynion. Ond ni aeth Pedr ac Ioan yn bell. Dilynon nhw Iesu yn dawel bach er mwyn gweld beth fyddai’n digwydd iddo.

Aeth yr offeiriaid â Iesu at hen ddyn o’r enw Annas a fu’n archoffeiriad ar un adeg. Ond ni wnaethon nhw aros yn hir. Aethon nhw ymlaen i dŷ yr archoffeiriad, Caiaffas. Yno, roedd criw mawr o arweinwyr crefyddol wedi ymgynnull.

Yn nhŷ Caiaffas, cafodd Iesu ei roi ar brawf. Cafodd nifer o bobl eu talu i ddweud celwydd am Iesu. Dywedodd yr arweinwyr crefyddol i gyd: ‘Mae Iesu yn haeddu marwolaeth.’ Yna fe wnaethon nhw boeri yn ei wyneb a’i ddyrnu.

Tra oedd hyn yn digwydd, roedd Pedr yn sefyll yng nghwrt y tŷ. Gan ei bod hi’n noson oer, roedd y bobl yn cadw’n gynnes o gwmpas y tân. Yn sydyn, dyma un o’r morynion yn syllu ar Pedr a dweud: ‘Roedd y dyn hwn gyda Iesu.’

‘Nac oeddwn wir!’ atebodd Pedr.

Dair gwaith dywedodd y bobl fod Pedr yn un o ffrindiau Iesu. Ond bob tro, fe wnaeth Pedr wadu ei fod yn adnabod Iesu. Ar y trydydd tro, dyma Iesu yn troi ac yn edrych yn syth arno. Torrodd Pedr ei galon am ei fod wedi dweud y fath gelwyddau, ac fe aeth allan yn ei ddagrau.

Fore dydd Gwener wrth iddi wawrio, aeth yr offeiriaid â Iesu i’r neuadd lle roedd llys y Sanhedrin yn cyfarfod. Yno, trafodon nhw beth roedden nhw’n mynd i’w wneud â Iesu. Ymlaen â nhw wedyn at Pontius Pilat, llywodraethwr talaith Jwdea.

‘Dyn drwg ofnadwy yw hwn,’ meddai’r offeiriaid wrth Pilat. ‘Mae’n rhaid iddo farw.’ Ar ôl holi Iesu, dywedodd Pilat: ‘Hyd y gwelaf i, nid yw’r dyn hwn wedi gwneud dim o’i le.’ Yna anfonodd Iesu ymlaen at Herod Antipas. Llywodraethwr Galilea oedd Herod, ond roedd yn aros yn Jerwsalem ar y pryd. Nid oedd Herod yn gweld unrhyw fai ar Iesu chwaith, ac anfonodd ef yn ôl at Pilat.

Roedd Pilat yn dymuno rhyddhau Iesu, ond roedd gelynion Iesu am i garcharor arall gael ei ryddhau yn ei le. Troseddwr adnabyddus oedd hwnnw, o’r enw Barabbas. Tua hanner dydd, daeth Pilat â Iesu allan, a dweud wrth y bobl: ‘Dyma eich brenin!’ Ond bloeddiodd y prif offeiriaid: ‘I ffwrdd ag ef! Lladdwch ef! Lladdwch ef!’ Felly gorchmynnodd Pilat i Barabbas gael ei ryddhau, ac aeth y milwyr â Iesu i ffwrdd i gael ei ladd.

Yn gynnar brynhawn dydd Gwener, cafodd Iesu ei hoelio ar stanc. Cafodd dau droseddwr eu lladd yr un pryd, un ar bob ochr i Iesu. Ychydig cyn i Iesu farw, dyma un o’r troseddwyr yn dweud wrtho: ‘Cofia fi pan ddoi di i’th deyrnas.’ Atebodd Iesu: ‘Rydw i’n addo i ti, y byddi di gyda mi ym Mharadwys.’

Mae hynny’n addewid arbennig. Wyt ti’n gwybod ble bydd y baradwys roedd Iesu yn sôn amdani? Wel, ble roedd y baradwys wreiddiol a greodd Duw? Ie, ar y ddaear. Pan fydd Iesu yn teyrnasu yn y nefoedd, fe fydd yn atgyfodi’r dyn hwnnw i fyw yn y Baradwys newydd ar y ddaear. Dyna rywbeth i edrych ymlaen ato!