Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 99

Mewn Ystafell ar y Llawr Uchaf

Mewn Ystafell ar y Llawr Uchaf

DDAU ddiwrnod yn ddiweddarach, a hithau’n nos Iau, aeth Iesu a’r 12 apostol i’r ystafell fawr hon i fwyta swper y Pasg. Y dyn sy’n gadael yw Jwdas Iscariot. Roedd yn mynd i ddweud wrth yr offeiriaid sut y gallen nhw ddal Iesu a’i ladd.

Y diwrnod cynt, roedd Jwdas wedi mynd atyn nhw a gofyn: ‘Faint o arian rowch chi imi os gwna’ i eich helpu i ddal Iesu?’ Dywedon nhw: ‘Tri deg darn o arian.’ Felly, aeth Jwdas i gyfarfod â’r offeiriaid a’u harwain at Iesu. Am beth ofnadwy i’w wneud!

Wrth i bawb orffen swper y Pasg, dyma Iesu’n dechrau gweini pryd o fwyd arall. Cymerodd dorth a’i rhannu ymhlith yr apostolion gan ddweud: ‘Bwytewch hwn, oherwydd mae’n cynrychioli fy nghorff sy’n cael ei roi er eich mwyn chi.’ Yna, rhoddodd gwpan gwin iddyn nhw gan ddweud: ‘Yfwch o hwn, oherwydd y mae’n cynrychioli fy ngwaed a fydd yn cael ei dywallt er eich mwyn chi.’ Mae’r Beibl yn galw’r swper hwn yn ‘Swper yr Arglwydd.’

Roedd yr Israeliaid yn dathlu’r Pasg i’w hatgoffa am y noson achubodd angel Duw eu plant nhw, ond lladd y cyntaf-anedig yn nheuluoedd yr Eifftwyr. O hyn ymlaen roedd Iesu eisiau i’w ddisgyblion gofio amdano ef, ac am y ffordd y rhoddai ei fywyd drostyn nhw. Dyna pam y dywedodd wrthyn nhw am ddathlu’r swper arbennig hwn bob blwyddyn.

Ar ôl bwyta Swper yr Arglwydd, anogodd Iesu ei apostolion i fod yn ddewr ac i gadw eu ffydd yn gryf. Yna, ar ôl canu mawl i Dduw, aethon nhw allan. Roedd hi’n hwyr erbyn hyn, efallai wedi canol nos. Gad inni weld ble aethon nhw.