Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 108

Ar y Ffordd i Ddamascus

Ar y Ffordd i Ddamascus

A WYT ti’n gwybod pwy yw’r dyn ar y llawr? Dyma Saul, y dyn oedd yn gofalu am gotiau’r dynion drwg a laddodd Steffan. Weli di’r golau disglair yn fflachio o’i amgylch? Beth sy’n digwydd?

Ar ôl i Steffan gael ei ladd, aeth Saul ati i chwilio am ddilynwyr Iesu a’u cam-drin. Gan fynd o un tŷ i’r llall, roedd yn llusgo pobl allan a’u taflu i’r carchar. Roedd yn rhaid i lawer o’r disgyblion ffoi a chyhoeddi’r newyddion da mewn dinasoedd eraill. Ond roedd Saul yn dechrau chwilio amdanyn nhw yn y dinasoedd hynny hefyd. Un diwrnod, roedd Saul yn teithio i Ddamascus, ond ar y ffordd digwyddodd rhywbeth rhyfeddol iawn.

Yn sydyn, fflachiodd goleuni o’r nefoedd o gwmpas Saul. Syrthiodd i’r llawr. Yna clywodd lais yn dweud: ‘Saul, Saul, pam rwyt ti’n fy erlid i?’ Roedd y dynion gyda Saul yn gweld y golau, ond nid oedden nhw’n deall y llais.

‘Pwy wyt ti, Arglwydd?’ gofynnodd Saul.

‘Iesu ydw i, yr un rwyt ti’n ei erlid,’ meddai’r llais. Dywedodd Iesu hyn oherwydd bob tro roedd Saul yn cam-drin un o ddilynwyr Iesu, roedd fel petai’n cam-drin Iesu ei hun.

‘Beth dylwn i ei wneud, Arglwydd?’ gofynnodd Saul.

‘Cod a dos i Ddamascus,’ meddai Iesu. ‘Yno cei di wybod beth i’w wneud.’ Pan gododd Saul ac agor ei lygaid, nid oedd yn gweld dim. Roedd yn hollol ddall! Cydiodd y dynion eraill yn ei law a’i arwain i mewn i’r ddinas.

Yn y cyfamser, siaradodd Iesu ag un o’i ddisgyblion yn Namascus. Dywedodd wrtho: ‘Ananias, cod! Dos i dŷ Jwdas yn Stryd Union a gofyn am ddyn o’r enw Saul. Rydw i wedi ei ddewis i fod yn was arbennig i mi.’

Aeth Ananias ar unwaith. Pan welodd Ananias Saul, aeth ato a rhoi ei ddwylo arno. Dywedodd wrtho: ‘Mae’r Arglwydd wedi fy anfon atat ti er mwyn iti gael dy olwg yn ôl a chael dy lenwi â’r ysbryd glân.’ Ar y gair, dyma rywbeth tebyg i gen, neu haenen denau, yn syrthio oddi ar lygaid Saul, ac fe gafodd ei olwg yn ôl.

Yn nerth Jehofa, pregethodd Saul i bobl mewn llawer o wledydd. Daeth pobl i’w adnabod fel yr apostol Paul, a byddwn yn dysgu mwy amdano ef yn nes ymlaen. Ond yn gyntaf, gad inni weld beth roedd Duw am i Pedr ei wneud.