Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 102

Mae Iesu yn Fyw

Mae Iesu yn Fyw

A WYT ti’n gwybod pwy yw’r bobl hyn? Mair Magdalen yw’r wraig. Roedd hi’n ffrind i Iesu. Angylion yw’r dynion mewn dillad gwyn. Mae Mair yn edrych i mewn i ystafell sydd wedi ei naddu yn y graig. Dyna lle cafodd corff Iesu ei roi, ond y mae wedi diflannu! Oedd rhywun wedi ei ddwyn? Gad inni weld.

Ar ôl i Iesu farw, dywedodd yr offeiriaid wrth Pilat: ‘Pan oedd Iesu’n fyw, dywedodd y byddai’n cael ei atgyfodi ar ôl tri diwrnod. Felly, a wnei di orchymyn i rywun warchod y bedd rhag ofn i’w ddisgyblion ddwyn y corff a dweud bod Iesu wedi dod yn ôl yn fyw!’ Dywedodd Pilat wrth yr offeiriaid am anfon milwyr i wylio’r bedd.

Sut bynnag, yn gynnar iawn ar y trydydd dydd ar ôl i Iesu farw, dyma un o angylion Jehofa yn ymddangos. Rholiodd y garreg fawr oddi ar geg y bedd. Dychrynodd y milwyr cymaint fel nad oedden nhw’n gallu symud. Ond, pan edrychon nhw i mewn i’r bedd, gwelon nhw fod y corff wedi mynd! Aeth rhai o’r milwyr i ddweud wrth yr offeiriaid. Beth wnaeth yr offeiriaid drwg? Talon nhw’r milwyr i ddweud celwydd, gan ddweud: ‘Dywedwch fod ei ddisgyblion wedi dod yn y nos a dwyn y corff tra oeddech chi’n cysgu.’

Yn y cyfamser, aeth rhai o’r gwragedd a oedd yn ddisgyblion i Iesu at y bedd. Er mawr syndod iddyn nhw, roedd y bedd yn wag! Yn sydyn, dyma ddau angel yn ymddangos. ‘Pam rydych chi’n edrych am Iesu yma?’ gofynnon nhw. ‘Y mae Iesu yn fyw. Brysiwch i ddweud wrth y disgyblion.’ Rhedodd y gwragedd nerth eu traed. Ond ar y ffordd, dyma ddyn yn dod atyn nhw. Wyt ti’n gwybod pwy oedd y dyn? Ie, Iesu ei hun! ‘Ewch a dweud wrth y disgyblion,’ meddai.

Pan ddywedodd y gwragedd wrth y disgyblion fod Iesu yn fyw, a’u bod nhw wedi ei weld, nid oedd y disgyblion yn eu credu. Rhedodd Pedr ac Ioan at y bedd i weld drostyn nhw eu hunain, ond roedd y bedd yn wag! Ar ôl iddyn nhw adael, arhosodd Mair Magdalen wrth y bedd. Dyna pryd edrychodd hi i mewn a gweld y ddau angel.

Beth ddigwyddodd i gorff Iesu felly? Achosodd Duw iddo ddiflannu. Pan gafodd Iesu ei atgyfodi, rhoddodd Duw gorff ysbrydol newydd iddo yn debyg i’r cyrff sydd gan yr angylion. Ond er mwyn profi i’r disgyblion ei fod yn fyw, roedd Iesu’n gallu ymddangos ar ffurf ddynol. Byddwn ni’n dysgu am hynny nesaf.