Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 109

Pedr a Cornelius

Pedr a Cornelius

A WYT ti’n gweld yr apostol Pedr yma a’i ffrindiau yn sefyll y tu ôl iddo? Pam mae’r dyn arall yn ymgrymu? A yw’n iawn iddo fynd ar ei luniau o flaen Pedr? Wyt ti’n gwybod pwy yw’r dyn?

Cornelius oedd enw’r dyn, ac roedd yn swyddog yn y fyddin Rufeinig. Nid oedd Cornelius yn adnabod Pedr, ond roedd wedi cael neges i ddweud y dylai wahodd Pedr i’w dŷ. Gad inni weld sut digwyddodd hynny.

Iddewon oedd dilynwyr cyntaf Iesu, ond doedd Cornelius ddim yn Iddew. Eto, roedd yn caru Duw, yn gweddïo arno, ac yn gwneud llawer o bethau da i bobl. Un prynhawn, roedd angel wedi ymddangos iddo a dweud: ‘Mae Duw wedi clywed dy weddïau a gweld dy garedigrwydd. Anfon ddynion i nôl dyn o’r enw Pedr. Mae’n aros yn nhŷ Simon ar lan y môr.’

Anfonodd Cornelius rai o’i weision i chwilio am Pedr ar unwaith. Y diwrnod wedyn, pan oedd dynion Cornelius bron â chyrraedd Jopa, aeth Pedr i ben y to fflat yn nhŷ Simon. Yno, mewn gweledigaeth, fe welodd liain mawr yn dod i lawr o’r nefoedd. Y tu mewn iddo, roedd pob math o anifeiliaid. Yn ôl cyfraith Duw, nid oedd yr Iddewon yn cael bwyta anifeiliaid aflan, ond dywedodd llais: ‘Cod Pedr, lladd yr anifeiliaid a’u bwyta.’

‘Na wnaf wir!’ meddai Pedr. ‘Nid ydw i erioed wedi bwyta anifail aflan.’ Ond dywedodd y llais: ‘Paid ti â galw’n aflan bethau y mae Duw yn eu galw’n lân.’ Digwyddodd hyn dair gwaith. Tra oedd Pedr yn ceisio dyfalu beth oedd ystyr y weledigaeth, dyma ddynion Cornelius yn cyrraedd y tŷ ac yn holi am Pedr.

Aeth Pedr i lawr y grisiau a dweud: ‘Fi yw’r dyn rydych chi’n chwilio amdano. Pam daethoch chi yma?’ Esboniodd y dynion fod angel wedi dweud wrth Cornelius am wahodd Pedr i’w dŷ. Cytunodd Pedr i fynd yn ôl gyda nhw. Felly y diwrnod wedyn, aeth Pedr a rhai o’i ffrindiau i ymweld â Cornelius yng Nghesarea.

Roedd Cornelius wedi casglu ei deulu a’i ffrindiau at ei gilydd. Pan gyrhaeddodd Pedr, syrthiodd Cornelius ac ymgrymu o’i flaen. Ond dywedodd Pedr: ‘Cod, dyn cyffredin fel ti ydw i.’ Ie, mae’r Beibl yn dangos nad yw’n iawn inni addoli dynion. Jehofa yn unig y dylen ni ei addoli.

Siaradodd Pedr wedyn â phawb yn y tŷ, gan ddweud: ‘Rydw i’n deall nawr fod Duw yn derbyn pob un sy’n dymuno ei addoli.’ Tra oedd Pedr yn dal i siarad, anfonodd Duw yr ysbryd glân, a dechreuodd y bobl siarad gwahanol ieithoedd. Roedd y disgyblion a ddaeth gyda Pedr wedi eu syfrdanu oherwydd roedden nhw’n meddwl mai dim ond yr Iddewon roedd Duw yn eu bendithio. Ond, roedd Duw yn dangos bod pobl o bob cenedl yn gyfartal yn ei olwg ef. Onid yw hynny’n beth da i ni ei gofio?