Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 106

Rhyddhau’r Apostolion

Rhyddhau’r Apostolion

A WYT ti’n gweld yr angel yn agor drws y carchar? Y dynion sy’n cael eu rhyddhau yw apostolion Iesu. Gad inni weld pam roedd yr apostolion yn y carchar.

Un prynhawn, yn fuan ar ôl i’r disgyblion dderbyn yr ysbryd glân, aeth Pedr ac Ioan i’r deml yn Jerwsalem. Yno, wrth y fynedfa, roedd dyn oedd wedi bod yn gloff ers iddo gael ei eni. Roedd pobl yn dod ag ef i’r deml bob dydd fel y gallai ofyn am arian. Pan welodd ef Pedr ac Ioan, gofynnodd iddyn nhw am arian. Beth fyddai’r apostolion yn ei wneud?

Edrychodd Pedr ac Ioan arno. ‘Does dim arian gen i,’ meddai Pedr, ‘ond fe gei di’r hyn sydd gen i. Yn enw Iesu, cod a cherdda!’ Yna gafaelodd Pedr yn llaw’r dyn cloff ac ar unwaith fe neidiodd ar ei draed a dechrau cerdded! Pan welodd y bobl fod gwyrth wedi digwydd, roedden nhw’n syfrdan ac yn hapus dros ben.

Esboniodd Pedr: ‘Drwy nerth Duw, yr un a atgyfododd Iesu o’r meirw, rydyn ni wedi gwneud y wyrth hon.’ Tra oedd Pedr ac Ioan yn siarad, dyma rai o’r arweinwyr crefyddol yn dod atyn nhw. Roedden nhw’n flin fod Pedr ac Ioan yn dweud wrth y bobl am atgyfodiad Iesu. Felly dyma nhw’n gafael yn yr apostolion a’u taflu i’r carchar.

Drannoeth, trefnodd yr arweinwyr crefyddol gyfarfod mawr er mwyn holi Pedr, Ioan, a’r dyn a oedd wedi ei iacháu. ‘Pwy roddodd ichi’r nerth i wneud gwyrthiau?’ gofynnodd yr arweinwyr crefyddol.

Dywedodd Pedr eu bod nhw wedi cael y nerth oddi wrth Dduw, yr un oedd wedi atgyfodi Iesu. Nid oedd yr offeiriaid yn gwybod beth i’w wneud. Doedden nhw ddim yn gallu gwadu bod gwyrth wedi digwydd. Felly, ar ôl dweud wrth yr apostolion am beidio â phregethu am Iesu byth eto, fe wnaethon nhw eu gollwng yn rhydd.

Wrth i’r dyddiau fynd heibio, daliodd yr apostolion ati i bregethu am Iesu ac i iacháu pobl. Lledodd y newyddion am y gwyrthiau trwy’r ardal. Roedd tyrfaoedd yn dod â chleifion o’r trefi o gwmpas Jerwsalem i’r apostolion eu hiacháu. Pan welodd yr arweinwyr crefyddol beth oedd yn digwydd, roedden nhw’n genfigennus. Felly dyma nhw’n arestio’r apostolion eto a’u rhoi yn y carchar. Ond fuon nhw ddim yno’n hir.

Yn ystod y nos, agorodd angel ddrws y carchar. Dywedodd yr angel: ‘Ewch i’r deml, a daliwch ati i bregethu i’r bobl.’ Y bore wedyn, pan anfonodd yr arweinwyr crefyddol ddynion i nôl yr apostolion o’r carchar, doedden nhw ddim yno. Yn nes ymlaen, fe wnaeth y dynion gael hyd iddyn nhw yn y deml a dod â nhw i neuadd y Sanhedrin.

‘Rydyn ni wedi gorchymyn ichi beidio â phregethu am Iesu,’ meddai’r arweinwyr crefyddol. ‘Ond rydych chi wedi llenwi Jerwsalem â’ch pregethu.’ Atebodd yr apostolion: ‘Mae’n rhaid inni ufuddhau i Dduw yn hytrach nag i ddynion.’ Felly, daliodd yr apostolion ati i bregethu’r newyddion da. Wyt ti’n meddwl bod hynny’n esiampl dda i ni?