Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 107

Steffan yn Cael ei Ladd

Steffan yn Cael ei Ladd

A WYT ti’n gweld y dyn ar ei luniau? Dyma Steffan, un o ddisgyblion ffyddlon Iesu. Ond edrycha ar beth sy’n digwydd iddo! Mae’r dynion yn taflu cerrig ato. Pam roedden nhw’n casáu Steffan gymaint? Gad inni weld.

Roedd Steffan yn dysgu’r gwirionedd am Dduw, ac roedd Duw wedi ei helpu i wneud gwyrthiau rhyfeddol. Nid oedd y dynion yn hoffi hynny, ac fe ddechreuon nhw ddadlau ag ef. Ond, rhoddodd Duw ddoethineb mawr i Steffan, ac fe brofodd fod y dynion wedi camarwain pobl drwy ddysgu pethau anghywir am Dduw. Roedd hyn yn eu gwylltio’n fwy byth. Felly dyma nhw’n gafael ynddo a threfnu i bobl ddweud celwyddau amdano o flaen llys y Sanhedrin.

Gofynnodd yr archoffeiriad i Steffan: ‘Ydy hyn yn wir?’ Atebodd Steffan drwy roi anerchiad o’r Beibl. Yn y diwedd, dywedodd: ‘Roedd eich cyndeidiau’n casáu proffwydi Jehofa. Ac rydych chi’r un fath â nhw. Rydych chi wedi torri cyfraith Duw a lladd ei was, Iesu.’

Pan glywodd yr arweinwyr crefyddol hyn, aethon nhw’n gynddeiriog! Ond cododd Steffan ei ben a dweud: ‘Edrychwch! Rydw i’n gweld Iesu’n sefyll wrth ochr Duw yn y nefoedd.’ Ar hynny, cuddiodd y dynion eu clustiau a rhuthro at Steffan a’i lusgo allan o’r ddinas.

Tynnodd nifer o’r dynion eu cotiau a’u rhoi yng ngofal dyn ifanc o’r enw Saul. Wyt ti’n gweld Saul yn y llun? Wedyn, codon nhw gerrig a dechrau eu taflu at Steffan. Syrthiodd Steffan ar ei luniau a gweddïo: ‘Jehofa, paid â’u cosbi am y pechod hwn.’ Roedd Steffan yn gwybod bod rhai wedi cael eu twyllo gan yr arweinwyr crefyddol. Ar ôl iddo weddïo, bu farw Steffan.

Pan fydd rhywun yn gas wrthyt ti, a wyt ti’n gas wrthyn nhw? A fyddet ti’n gofyn i Dduw eu cosbi? Nid dyna beth y byddai Steffan wedi ei wneud, na Iesu chwaith. Roedden nhw’n garedig i bawb, hyd yn oed i’r rhai a oedd yn gas wrthyn nhw. On’d ydy hynny’n esiampl dda inni ei dilyn?